Ryan Jones
Mae hyfforddwr y Gweilch yn dweud eu bod yn croesawu “tîm cryf iawn” i Stadiwm y Liberty heno, pan fyddan nhw’n wynebu Glasgow yn fyw o flaen camerâu Scrum V ar BBC 2 Cymru.

Mae’r ddau dîm yn dal heb fuddugoliaeth yng nghynghrair RaboDirect Pro 12.

Hyd yma mae’r Gweilch wedi colli i Benetton ac Ulster.

Bydd yr asgellwr Tom Grabham yn chwarae ei gêm gyntaf i’r Gweilch heno, ond ni fydd Ryan Jones, Eli Walker, James Goode, Tom Habberfield, Tom Isaacs, James King, Tom Smith, Jonathan Thomas, Adam Jones ar gael oherwydd anafiadau.

‘‘Mae heno yn gêm bwysig i ni, ac rydym yn ymwybodol ein bod yn erbyn tîm cryf iawn,” meddai Steve Tandy, Prif hyfforddwr y Gweilch.

“Yn debyg iawn i ni, byddan nhw’n siomedig iawn gyda dechrau’r tymor.  Fe wnaethon nhw gyrraedd rownd cyn-derfynol y RaboDirect Pro 12 y tymor diwethaf, ac maen nhw’n dîm anodd i’w chwarae.’’