Michael Laudrup yw'r rheolwr
Bydd Abertawe yn teithio i Villa Park yn eithaf hyderus wrth iddyn nhw eistedd yn yr ail safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair, wedi cipio saith pwynt o’r naw sy’n bosibl.
Mae’r Elyrch wedi bod yn drawiadol ar y cae cyn belled, wedi curo QPR yn y gêm agoriadol (5-0), ac yna yn curo West Ham (3-0) yn Stadiwm y Liberty, cyn llwyddo i gael gêm gyfartal yn erbyn Sunderland (2-2).
Ni fydd y cefnwr Neil Taylor ar gael am weddill y tymor wedi iddo dorri ei ffêr. Dwight Tiendalli fydd yn cymryd ei le. Yn ogystal, bydd Chico Flores wedi’i waharddiad am dair gêm ar ôl derbyn carden goch yn erbyn Sunderland.
Y tro diwethaf i’r ddau dîm gwrdd, enillodd yr Elyrch 2-0 yn Stadiwm y Liberty.