Rhys Priestland - croeso ac 11 pwynt
Scarlets 16 Ulster 18
Fe gollodd y Scarlets yn y funud ola’ yn erbyn Ulster yng Nghynghrair Magners, ar ôl bod ar y blaen am y rhan fwya’ o’r gêm.
Ruan Pienaar a gafodd y tri phwynt buddugol i’r Gwyddelod a’i gicio ef oedd wedi eu cadw yn yr ornest.
Roedd wedi rhoi Ulster 6-0 ar y blaen gyda dwy gic gosb ond fe lwyddodd maswr y Scarlets Rhys Priestland i ateb y rheiny.
Roedd ef a’r blaenasgellwr Josh Turnbull wedi cael croeso mawr gan y dorf ar Barc y Scarlets ar ôl ennill eu capiau cynta’ i Gymru ddydd Sadwrn.
Ymhen ychydig, roedd y Scarlets ar y blaen gyda’u cais cosb cynta’ gartre’ ers mwy na dwy flynedd. A gyda gôl adlam gan Priestland yn ateb cic gosb arall gan Pienaar, roedd y Cymry 16-9 ar y blaen ar yr hanner.
Ond Pienaar oedd hi ar ôl hynny, ynghanol y glaw, ac fe gafodd y tri phwynt tyngedfennol yn y munudau ola’.