Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau fod y blaen-asgellwr Sam Warburton wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r rhanbarth.

Mae’r bachgen o’r brif ddinas wedi bod gyda’r rhanbarth ers ymuno ag Academi’r Gleision yn 2006-07.

Tra’n siarad yn Stadiwm Dinas Caerdydd, dywedodd ei fod e’n “hynnod o hapus i fod yn aros yma.”

“Bachgen o Gaerdydd ydw i, wedi fy ngeni a’m magu, ac mae cael cynnig cytundeb newydd yma yn anhygoel,” meddai.

“Dim ond o 22 oed ydw i, a dwi’n teimlo bod llawer mwy i’w gyflawni yma.”

Gwnaeth Sam Warburton ei ymddangosiad rhanbarthol cyntaf dros y Gleision yng Nghaeredin yn 2009, ac mae wedi chwarae 36 o weithiau dros y rhanbarth ers hynny.

“Dim ond ers tri tymor dwi wedi bod gyda’r tîm cyntaf, a gyda’r holl chwaraewyr ifanc fel Bradley Davies, Leigh Halfpenny a Tom James, mae ganddon ni ddyfodol llewyrchus iawn.”

Canmol yr Academi

“Dwi wedi dod trwyddo gyda’r un criw o fechgyn o’r Academi, ac ry’n ni wedi dod yn ein blaen gyda’n gilydd,” meddai, “felly mae hi wedi bod yn ddatblygiad esmwyth iawn.”

Dywedodd fod y broses o ddatblygu a dod i nabod y chwaraewyr yn beth pwysig a chyfforus iawn iddo.

“Dwi wedi nabod rhai o’r bechgyn hyn ers chwe mlynedd yn barod trwy rygbi, ac mae rhyw 10 i 12 ohonon ni sydd wedi dod trwodd o fewn ychydig flynyddoedd i’n gilydd, sy’n dangos fod y systemau yn gweithio.”

Ychwanegodd fod “rhyw saith neu wyth ohonon ni wedi cael ein capiau yn barod.” Cafodd Sam Warburton ei gap cyntaf ar daith Cymru i Ogledd America yn haf 2009.