Shane Williams - ar ei ffordd?
Mae arwr rygbi Cymru, Shane Williams, wedi rhoi’r gorau i drafod cytundeb newydd gyda’r Gweilch, tros dro o leia’.
Ac mae’r asgellwr, sydd ar fin cael ei ben-blwydd yn 34, wedi awgrymu bod gan glybiau yn Ffrainc ddiddordeb ynddo.
Fe fyddai hynny’n golygu dilyn rhai o enwau mawr eraill y Gweilch – James Hook, Lee Byrne a Gavin Henson – i groesi’r sianel.
Mae’r rhanbarth hefyd wedi dweud eu bod yn barod i ystyried cynigion am y mewnwr Mike Phillips ac mae sôn bod clybiau cyfoethog Ffrainc yn hela capten y clwb, yr ail reng Alun Wyn Jones.
Shane eisiau aros
Yn ôl cyfweliadau gyda’r cyfryngau, mae Shane Williams yn awyddus i aros yn Stadiwm Liberty ond dyw e ddim wedi cael cynnig pendant eto.
Mae wedi gohirio’r trafodaethau yn ystod y tymor rygbi rhyngwladol ond mae ei gytundeb presennol yn dod i ben yn yr haf – roedd wedi ei arwyddo yn 2008.
Roedd ei ddau gais ddydd Sadwrn yn erbyn yr Alban wedi mynd ag ef at 53 o geisiau rhyngwladol ac o fewn cyrraedd i record byd David Campese.