Yn dilyn colli achos llys yn erbyn Undeb Rygbi Cymru, mae clwb rygbi Pontypŵl yn wynebu brwydr i oroesi yn dilyn bil o £400,000 am gostau’r achos. Mae’r ffigwr hwnnw’n ddwbwl y gost o redeg y clwb yn flynyddol.

Yn ôl adroddiadau yn y South Wales Argus mae’r clwb yn wynebu diddymiad neu orfodaeth i dalu’r costau’n ôl dros gyfnod o 25 mlynedd.

Bydd clwb rygbi Pontypŵl eisoes yn disgyn i ail adran rygbi Cymru ar ôl colli’r achos llys yn erbyn Undeb Rygbi Cymru wythnos diwethaf.

Cyn y gwrandawiad roedd yn rhaid i Bontypŵl roi sicrwydd y byddent yn gallu talu costau’r achos pe byddai’r barnwr yn gwrthod cais y clwb.

Dywedodd arbenigwr y byddai hi wedi bod yn well i’r clwb dderbyn cynnig Undeb Rygbi Cymru cyn yr achos llys i dynnu’r achos yn ôl rhag gorfod talu costau cyfreithiol yn y dyfodol.

Cafodd cyfarwyddwyr y clwb gyfarfod brys neithiwr i drafod y mater.