Sean Lamont yn gwenu gyda'r Scarlets
Mae asgellwr Y Scarlets a’r Alban, Sean Lamont wedi ymosod ar ei gyd chwaraewyr rhyngwladol yn dilyn y gêm yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn.

Er gwaetha’r gwelliant ym mherfformiad Cymru wrth ennill ym Murrayfield, mae’r deallusion wedi bod yn barod iawn i dynnu sylw at safon isel chwarae’r Albanwyr hefyd.

Ar ôl perfformiad nodedig wrth golli yn erbyn Ffrainc yr wythnos diwethaf, a chadarnhau estyniad nes 2015 i gytundeb eu prif hyfforddwr, Andy Robinson yn ystod yr wythnos, roedd eu perfformiad yn erbyn y Cymry’n siomedig a dweud y lleiaf.

Un o’r unig chwaraewyr Albanaidd i greu argraff oedd yr eilydd Sean Lamont, a ddaeth i’r maes yn lle Hugo Southwell wedi dim ond 20 munud ar ôl i hwnnw ddioddef anaf wrth gwblhau tacl beryglus yn erbyn cefnwr Cymru Lee Byrne.

Wedi’r gêm roedd Lamont yn barod iawn i fynegi ei siom ym mherfformiad chwaraewyr eraill yr Alban, gan ddefnyddio iaith ddigon lliwgar wrth wneud hynny.

“Blin? Ydw i’n flin?” meddai Lamont. “Ydw dwi’n flin. Dwi’n flin iawn. Dwi’n meddwl bod pawb yn (flin). Dwi’n gwybod bod yr hyfforddwyr yn flin. Maen nhw’n ******* gynddeiriog. Dwi’n ******* gynddeiriog gan ym mod i’n gwybod y gallwn ni chwarae’n well na hynny.

“Mae ‘na rai o’r bois sydd angen dechrau poeni nawr. Mae gennym ni gryfder yn y garfan ac mae angen iddyn nhw fod yn wyliadwrus. Os nad ydyn nhw’n perfformio bydd rhywun arall camu mewn yn eu lle. ”

Mae Lamont wedi cael tymor da hyd yn hyn fel un o’r chwaraewyr mwyaf profiadol yng ngharfan ifanc y Scarlets.

Er hynny, ar y fainc yn unig mae wedi ei ddewis yn nwy gêm gyntaf yr Albanwyr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac roedd yn barod i dynnu sylw at ei siom.

“Dwi wedi cael pythefnos caled wrth beidio cael fy newis i ddechrau’r gemau, ond dwi wedi dod i’r maes yn y ddwy gêm gyda phwynt i’w brofi” meddai.

“Dwi’n meddwl bod angen i’r bois i gyd fod yn edrych dros eu hysgwydd oherwydd doedd y perfformiad ddim yn ddigon da.”

Ar ôl ei berfformiad ddydd Sadwrn mae gan Lamont gyfle da i fod yn y pymtheg cyntaf pan fydd yr Alban yn herio Iwerddon yn eu gêm nesaf mewn pythefnos.