Dan Biggar - ciciau tyngedfennol
Roedd chwaraewr gorau’r gêm yn canmol ymdrech blaenwyr y Gweilch am lwyddo i guro Ulster o bwynt yn Stadiwm y Liberty.

Ar ôl chwarter awr, roedd y tîm cartref 13-0 ar ei hôl hi ar ôl ildio dwy gic gosb a throsgais cosb ond fe lwyddon nhw i naddu eu ffordd yn ôl i mewn iddi.

Fe ddaeth unig gais y Gweilch gan y blaenwr Marty Holah yn yr ail chwarter ac, ar yr hanner, roedd y Gweilch ar y blaen o 14 i 13.

Cystadleuaeth gicio oedd hi wedyn gyda maswr y Gweilch, Dan Biggar, yn cicio cyfanswm o 18 pwynt i gipio’r fuddugoliaeth.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Gweilch i’r pumed lle yn nhabl Magners, yn union y tu ôl i’r Gleision a’r Scarlets. Nhw sydd wedi sgorio mwya’ o bwyntiau yn y gynghrair.

“Roedd gyda ni lwyfan da yn y blaen,” meddai’r blaenasgellwr Tom Smith, chwaraewr y gêm. “Aeth y sgrym yn dda eto gan roi cyfle i ni chwarae ychydig o rygbi ac ennill buddugoliaeth galed.”