Salford 12 – 42 Crusaders

Gwyliodd yr actor Mickey Rourke wrth i gyn-gapten rygbi’r undeb Cymru, Gareth Thomas, ddychwelyd i Stadiwm y Mileniwm heddiw.

Llwyddodd y Crusaders i adennill dau o’r pedwar pwynt a gollwyd yn gosb am fynd i ddwylo’r gweinyddwyr y llynedd.

Fe fydd Mickey Rourke yn chwarae rhan Gareth Thomas mewn ffilm am ei fywyd, ond seren y gêm oedd Michael Witt sgoriodd tri chais ar ddechrau Cynghrair y Super League.

Roedd yn ddechrau gwych i gêm gyntaf prif hyfforddwr newydd y Crusaders, Iestyn Harris, wrth y llyw.

Roedd hefyd yn gêm drychinebus i Salford, ac fe aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i’r bachwr Wayne Godwin weld cerdyn coch yn dilyn brwydr ar ddiwedd yr ail hanner.

Roedd tri o chwaraewr y Crusaders yn Awstralia yn disgwyl am visa, ond roedd y tîm o Wrecsam yn llawr rhy dda i’r clwb o Fanceinion Fwyaf.

Methodd Michael Witt ail hanner y tymor diwethaf gydag anaf, ond dangosodd ei werth drwy greu cais yr asgellwr 21 oed Rhys Williams ar ôl dwy funud yn unig.

Chwarter awr yn ddiweddarach sgoriodd Witt ei gais ei cyntaf ar ôl twyllo’r amddiffyn gyda phas ffug.

Sleifiodd Daniel Holdsworth drwy amddiffyn y Crusaders am ei gais ei hun, ond fe aeth y Cymru 16-6 ar y blaen pan laniodd y bêl yn nwylo Stuart Reardon ar ôl tacl ar Tony Martin.

Sgoriodd Luke Patten ei gais cyntaf dros y cochion ar ôl cic berffaith gan Matty Smith ac roedd Salford yn ôl o fewn pedwar pwynt – ond roedd hi lawr allt o hynny ymlaen.

Lledodd y bwlch ar ôl cic gosb 40 metr gan Clinton Schifcofske toc cyn hanner amser.

Roedd yr ail hanner yn gwbl unochrog wrth i Jason Chan ddangos ei gryfder a gwthio ei ffordd drosodd am gais ar ôl 53 munud.

Pum munud yn ddiweddarach fe aeth Witt drwy dwll anferth yn amddiffyn Salford i sgorio ei ail.

Wrth i Salford chwalu cipiodd Witt ei drydydd a Reardon ei ail, a sgoriodd  Schifcofske ei seithfed gic gosb o naw ymgais.