Mae panel yn gwrando ar apêl clwb Cymry Llundain heddiw ar ôl i Undeb Rygbi Lloegr ddweud nad oedd hawl gan yr alltudion i esgyn i uwchgynghrair Lloegr, er mai nhw a orffennodd ar frig y Bencampwriaeth.

Mae’r gwrandawiad yn cael ei gynnal yn Llundain gerbron tri bargyfreithiwr ac mae disgwyl bydd penderfyniad y panel yn cael ei gyhoeddi yfory.

Dywedodd Cadeirydd Cymry Llundain, Bleddyn Phillips, fod y clwb wedi cael cefnogaeth eang ers i’r RFU benderfynu nad oedden nhw’n gymwys i gael dyrchafiad.

“Dylai tîm sy’n dangos fod ganddo’r sgiliau a’r adnoddau i orffen ar frig yr adran allu symud ymlaen i’r haen nesaf, a thrwy hynny gynnal yr ysbryd cystadleuol sy’n rhan o fyd chwaraeon,” meddai Bleddyn Phillips.

Os bydd apêl Cymry Llundain yn llwyddo byddan nhw’n ymuno gyda chlybiau megis Caerlŷr a Northampton yn uwchgynghrair Aviva Lloegr, a bydd clwb Newcastle, a orffennodd ar waelod yr uwchgynghrair, yn disgyn i’r Bencampwriaeth