Michael Laudrup
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn gobeithio manteisio ar y sylw sylweddol mae’r ddinas yn ei gael yn dilyn penodiad Michael Laudrup fel rheolwr ar y tîm pêl-droed.

Mae camerâu teledu o Ddenmarc wedi bod yn Abertawe yn ffilmio rhai o atyniadau’r ddinas, gan gynnwys Parc Singleton, Y Mwmbwls a Sgwâr Dylan Thomas.

Mae’n ymddangos bod dros filiwn o bobl (20% o boblogaeth Denmarc) wedi gwylio’r rhaglen.

Mae’r gyn-seren o Ddenmarc yn dipyn o arwr yn ei wlad ei hun, wedi iddo dreulio cyfnod llewyrchus gyda chlwb Barcelona yn Sbaen.

Cafodd y cyn-chwaraewr canol cae ei benodi’n olynydd i Brendan Rodgers, sydd bellach yn rheolwr ar Lerpwl.

Mae Laudrup hefyd wedi bod yn rheolwr ar dimau Getafe a Mallorca yn Sbaen.

Ac mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd statws Laudrup fel un o’r chwaraewyr gorau erioed yn helpu i ddenu twristiaid i Fae Abertawe.

Mae cyswllt hirdymor rhwng Sgandinafia ac Abertawe, gyda rhai yn credu bod y ddinas wedi’i henwi ar ôl y brenin Sweyn a orchfygodd yr Eingl-Sacsoniaid yn 1013.

Yn fwy diweddar, bu cyn-chwaraewr Denmarc, Jan Molby yn chwaraewr-rheolwr yn y 1990au.

‘Apêl fyd-eang’

Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor â chyfrifoldeb am Adfywio, Nick Bradley: “Nid yn unig i’r Elyrch y mae penodiad Michael Laudrup yn gaffaeliaid.

“Mae’n gaffaeliad hefyd i ardal Bae Abertawe ar y cyfan oherwydd ei apêl fyd-eang.

“Mae’n cael ei ystyried ar y cyfan yn un o’r chwaraewyr pêl-droed gorau erioed a bydd hynny’n help wrth godi proffil Bae Abertawe ymhellach, yn ogystal â’r hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig i ymwelwyr o bob rhan o’r byd.

Dywedodd Rheolwr Twristiaeth Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Steve Hopkins: “Gwnaethon ni farchnata’n helaeth yng nghadarnleoedd pêl-droed y Deyrnas Unedig yn ystod tymor cyntaf yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair.

“Roedd hyn wedi golygu bod miloedd o ffans yr Uwch Gynghrair  a oedd wedi ymweld wedi cael argraff bositif iawn o’r ddinas.

“Fyddai nifer o’r ymwelwyr hyn ddim wedi dod i Abertawe oni bai am bêl-droed.

“Mae’r Uwch Gynghrair yn derbyn sylw ar draws y byd ac rydym yn gobeithio y bydd statws Laudrup yn Nenmarc yn temtio nifer o Ddaniaid i wrando ar radio Swansea Bay ar gyfer gemau’r Uwch Gynghrair. Gallai hyn arwain at ymwelwyr o Ddenmarc yn y dyfodol.”

Cynrychiolodd Laudrup ei wlad ar 104 achlysur rhwng 1982 a 1998, a chwaraeodd dros Juventus, Barcelona a Real Madrid.

Bydd Abertawe’n wynebu West Ham ar y Liberty yng ngêm gynta’r tymor ar Awst 25.