Ceri Sweeney
Glasgow Warriors 15 Gleision Caerdydd 26

Roedd yna drydedd buddugoliaeth o’r bron i Leision Caerdydd wrth iddyn nhw naddu canlyniad da yn Glasgow.

Roedd yna saith cic gosb i’r maswr, Ceri Sweeney, wrth i‘r Gleision fynd yn uwch na’r un tîm Cymreig arall yng Nghynghrair Magners.

Y Cymry a gafodd unig gais y gêm yn yr hanner cynta’, pan lwyddodd Tom James i redeg 70 metr a sgorio.

Tacl gan Gavin Evans oedd wedi creu’r cyfle, gyda’r bêl yn mynd yn rhydd y tu fewn i 22 y Gleision.

Glasgow oedd ar y blaen o 12-11 ar yr egwyl ond fe barhaodd Sweeney i gicio’n gywir i roi’r Cymry ar y blaen a dal eu tir.