Warren Gatland - teimlo'r pwysau
Mae hyfforddwr Cymru wedi cyfadde’i fod yn teimlo’r pwysau wrth deithio i Gaeredin i wynebu’r Alban heddiw.

Yn ôl Warren Gatland, mae pobol Cymru’n disgwyl buddugoliaeth ac mae hynny’n effeithio ar y tîm a’r tîm hyfforddi.

Dyw Cymru ddim wedi ennill yr un o’u hwyth gêm ddiwetha’ er bod Gatland yn pwysleisio bod nifer o’r rheiny yn erbyn timau gorau’r byd.

Brwydr y ddau faswr

Y disgwyl yw y bydd y frwydr rhwng y ddau faswr yn allweddol, gyda rhif 10 y Gleision, Dan Parks, yn chwaraewr gofalus i’r Alban a disgwyl i James Hook chwarae’n llachar i Gymru.

Yr Alban fydd fwya’ hyderus – er iddyn nhw golli 34-21 i Ffrainc y penwythnos diwetha’, fe gawson nhw dri chais a pherfformiad da yn enwedig yn yr ail hanner.

Yr un pryder iddyn nhw yw bod yr ail reng Richie Gray yn diodde’ o anhwylder stumog. Ef oedd un o’r sêr yn erbyn Ffrainc ac fe fydd yr Alban yn penderfynu ar y funud-ola’ a fydd y blaenwr yn chware.