James Hook - yn ei chanol hi

Fe fydd yr Alban yn targedu maswr newydd Cymru yn y gêm fory, yn ôl is-gapten yr Albanwyr.

Maen nhw’n disgwyl y bydd James Hook yn teimlo’r pwysau wrth iddo gael ei ddewis yn rhif 10 am y tro cynta’ ers 2009.

Ond mae’r dyn fydd yn chwarae wrth ei ochr, Jamie Roberts, wedi dweud fod ganddo bob ffydd yn chwaraewr amlochrog y Gweilch.

“Fe fydd James Hook yn mynd i mewn i’r penwythnos gyda llawer i’w brofi,” meddai Rory Lawson, mewnwr yr Alban.

“Mae’n dalent fawr, mae pawb yn gwybod hynny, ond os byddwn ni’n rhoi pwysau arno, efallai y bydd hynny’n talu. Fe fyddwn ni’n trïo’i wthio i frysio mewn rhai meysydd.”

Y newid mawr

Dewis James Hook yw’r newid mawr yn nhîm Cymru ers y golled i Loegr, gyda Stephen Jones yn cael ei yrru i’r fainc.

Ond roedd Lawson hefyd yn rhybuddio’i dîm ei hun rhag ildio gormod o’r bêl fel y gwnaethon nhw wrth golli o 34-21 i Ffrainc.

Ac mae canolwr Cymru, Jamie Roberts, wedi croesawu’r ffaith y bydd ganddo redwr cry’ wrth ei ochr ym Murrayfield.

“Mae’n fygythiad mawr wrth redeg,” meddai. “Mae hynny’n gwneud gwaith y canolwr yn haws. Mae’n tynnu llawer o’r pwysau oddi arnoch chi. Mae’n greadur talentog iawn a gobeithio y gallwn ni daro’r balans cywir.”