Bradley Davies, clo Cymru
Mae clo Cymru, Bradley Davies wedi dweud nad oes yna deimlad o banig o fewn garfan Cymru er gwaethaf eu rhediad siomedig. 

Fe fydd Cymru’n wynebu’r Alban yn Muarrayfield dydd Sadwrn heb yr un fuddugoliaeth yn eu wyth gêm ddiwethaf. 

Mae’r rhediad yn agosau at rediad gwaethaf Cymru erioed, pan gollwyd deg gêm yn olynol o dan arweiniad Steve Hansen rhwng mis Tachwedd 2002 a mis Awst 2003. 

“Mae pawb mewn panig heblaw amdanom ni.  Roedden ni wedi cael gemau anodd yn yr hydref ac fe gafodd sawl un o’r timau mawr ei gwthio,” meddai Bradley Davies. 

“Cyn gynted y byddwn ni wedi ennill, fe fydd llawer o’r pwysau sydd ar unigolion a’r tîm yn cael ei ryddhau, ac fe fyddwn ni’n chwarae’n fwy rhydd.
Momentwm

“Mae momentwm yn bwysig yn rygbi rhyngwladol yn ogystal â datblygu meddylfryd o ennill.  Ond rwyf i a’r chwaraewyr yn hyderus iawn yn ein gallu.

“Dyw colli cwpl o gemau agos ddim yn gwneud neb yn chwaraewr gwael nac yn dîm gwael.

“Mae colli yn gallu dod yn arferiad, ond os gallwn ni ennill yn Murrayfield, fe fyddwn ni’n ôl yn y gystadleuaeth.”

Mae Bradley Davies yn credu bydd Cymru yn gallu gwneud yn iawn am y rhediad siomedig dydd Sadwrn. 

“Ry’n ni’n gwybod nad y’n ni’n dîm gwael. Fe allwch chi ofyn i unrhyw dîm rhyngwladol arall ac ni fydden nhw’n dweud ein bod ni’n wael.

“Pe bydden ni heb chwarae dim rygbi yn ein gemau cynt ac wedi cael cweir, fe fyddai’n stori wahanol.  Ond ry’n ni’n chwarae llawer o rygbi da ar hyn o bryd.

“Mae’n hawdd i bob edrych ar y gêm a dweud beth ni’n gwneud yn anghywir.  Ond mae’n anodd gwneud sylwadau oni bai eich bod chi allan ar y cae.”