Thom Evans - hiraethu am chwarae rygbi
Fe fyddai chwaraewr a gafodd ei anafu’n ddifrifol yn erbyn Cymru’r llynedd wrth ei fodd yn cael chwarae rygbi eto.

Dyna neges asgellwr yr Alban, Max Evans, wrth sôn am ei frawd Thom sydd wedi rhoi’r gorau i’r gêm ar ôl yr anaf ofnadwy i’w wddw yng Nghaerdydd.

Er bod Thom Evans bellach yn dilyn gyrfa ym maes actio ac athletau ac yn canlyn y model, Kelly Brooks, mae wedi dweud wrth ei frawd y byddai’n rhoi’r cyfan am gael chwarae eto.

Fe fydd Max Evans ar yr asgell yn erbyn Cymru ym Murrayfield ddydd Sadwrn ac fe ddywedodd eu bod nhw eisiau dial – nid am yr anaf i’w frawd ond oherwydd buddugoliaeth ryfeddol y Cymry’r llynedd.

Fe ddaethon nhw o fod 21-9 ar ei hôl hi i ennill 31-24 gyda chais yn y munud ola’ un. Yn ôl Max Evans, roedd Cymru wedi dwyn y fuddugoliaeth honno.

Meddai Max

“Fe gawson ni gêm wych,” meddai. “Roedd y bois wedi perfformio’n wirioneddol dda tan y deng munud ola’.

“R’yn ni eisiau ennill gartref yn union fel y gwnaethon nhw ddwyn y fuddugoliaeth oddi arnon ni – dyna fydd y dial.

“Mae gyda ni gyfle anferth. Mae ar gael i’w hennill ond dim ond os byddwn ni’n perfformio’n dda.”