Mae hyfforddwr yr Alban, Andy Robinson wedi enwi’r un pymtheg cyntaf a gollodd yn erbyn Ffrainc i wynebu Cymru dydd Sadwrn.

Yr unig newid sydd wedi cael ei wneud yw bod y bachwr Scott Lawson wedi cymryd lle Dougie Hall oherwydd anaf. 

Roedd Robinson wedi canmol agweddau o chwarae ei dîm yn y gêm agoriadol, ond mae’n disgwyl gwell perfformiad yn erbyn Cymru ar y penwythnos. 

Er gwaethaf i Gymru golli 26-19 yn erbyn Lloegr, mae Robinson yn credu bydd tîm Warren Gatland yn gallu cynnig her anodd i’r Albanwyr. 

“Roedd pawb yn siomedig nad oedden ni wedi dechrau’r bencampwriaeth â buddugoliaeth yn erbyn Ffrainc,” meddai Andy Robinson. 

“Ond ry’n ni’n benderfynol o wneud yn iawn am hynny gyda pherfformiad gwell yn erbyn Cymru.

“Mae Cymru wedi dangos bod ganddynt sgiliau a’u bod yn chwarae am yr 80 munud llawn.  Fe fydd rhaid i ni fod yn fwy cywir a didostur penwythnos yma.” 

Cytundeb newydd

Mae Andy Robinson wedi arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei gadw gyda’r Albanwyr tan ar ôl Cwpan y Byd 2015. 

Roedd cytundeb presennol Robinson yn dod i ben ar ôl Chwe Gwlad 2012. 

Carfan Yr Alban

Cefnwyr- Hugo Southwell (Stade Francais), Nikki Walker (Gweilch), Joe Ansbro (Northampton), Nick De Luca (Caeredin), Max Evans (Glasgow), Dan Parks (Gleision) Rory Lawson (Caerloyw). 

Blaenwyr- Allan Jacobsen (Caeredin ), Ross Ford (Caeredin ), Euan Murray (Northampton), Richie Gray (Glasgow), Alastair Kellock (Glasgow), Nathan Hines (Leinster), John Barclay (Glasgow), Kelly Brown (Saraseniaid).

Eilyddion- Scott Lawson (Caerloyw), Moray Low (Glasgow), Richie Vernon (Glasgow), Ross Rennie (Caeredin ), Mike Blair (Caeredin ), Ruaridh Jackson (Glasgow), Sean Lamont (Scarlets).