Bydd Gogzilla ar S4C nos yfory
Mae’r cawr George North yn ffit i chwarae i’r Scarlets yn erbyn Munster nos yfory mewn gêm fydd yn ymdebygu i gêm ryngwladol, yn ôl hyfforddwr y rhanbarth.
Mae’n rhaid i’r Scarlets ennill er mwyn cynnal eu gobeithion o gyrraedd y gemau ail-gyfle, ac mae angen buddugoliaeth ar Munster i wneud yn siŵr eu bod hwythau’n gorffen yn y pedwar uchaf yn y gynghrair hefyd.
Y pedwar hynny fydd yn cael cystadlu i weld pwy sy’n cael eu coronni’n bencampwyr rygbi’r Celtiaid.
“Ry’n ni’n disgwyl gêm o safon ryngwladol,” meddai prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, ar drothwy’r ornest fawr.
“Rhaid i ni berfformio i’r eithaf achos mae Munster yn dîm sy’n brwydro am 80 munud ac yn anodd iawn i’w curo.”
Bydd presenoldeb mawr George North yn gaffaeliad i’r Scarlets. Gan fod canolwr Cymru Jonathan Davies wedi’i anafu mae Stephen Jones yn dechrau yn y canol wrth ochr y canolwr ifanc addawol, Adam Warren.
Scarlets v Munster, nos Sadwrn am 6.30 ar Barc y Scarlets, ac yn fyw ar S4C.
Y timau
Scarlets: 15 Liam Williams, 14 George North, 13 Adam Warren, 12 Stephen Jones, 11 Sean Lamont, 10 Rhys Priestland, 9 Gareth Davies, 1 Rhodri Jones, 2 Matthew Rees (capten), 3 Deacon Manu, 4 Sione Timani, 5 Dominic Day, 6 Aaron Shingler, 7 Josh Turnbull, 8 Ben Morgan.
Eilyddion: 16 Emyr Phillips, 17 Phil John, 18 Simon Gardiner, 19 Mat Gilbert, 20 Kieran Murphy, 21 Tavis Knoyle, 22 Jordan Williams, 23 Viliame Iongi.
Munster: 15 F Jones, 14 L O’Dea, 13 J Murphy, 12 L Mafi, 11 S Zebo, 10 I Keatley, 9 C Murray; 1 D Kilcoyne, 2 M Sherry, 3 BJ Botha, 4 M O’Driscoll, 5 P O’Connell (capten), 6 D Ryan, 7 T O’Donnell, 8 P O’Mahony.
Eilyddion: D Varley, W du Preez, S Archer, Donncha O’Callaghan, P Butler, T O’Leary.