Mae Shane Williams yn chwarae ei gêm olaf dros y Gweilch heno yn erbyn Dreigiau Gwent yn stadiwm Liberty.
Mae’r asgellwr o Lanaman wedi chwarae 136 o weithiau dros y rhanbarth ac wedi sgorio 54 cais – pedwar yn brin o’r 58 a sgoriodd i Gymru.
Mae disgwyl torf fawr ar y Liberty i ddweud hwyl fawr iddo, a dywedodd hyfforddwr blaenwyr y Gweilch, Jonathan Humphreys, bod hynny’n gymwys.
“Mae’n arwydd o’r parch sydd iddo yn y gymuned leol.
“Gyda thorf fwya’r tymor yn bresennol bydd hi’n bwysig ein bod ni’n dangos yr agwedd cywir ac yn eu plesio nhw. Ry’n ni eisiau eu gweld nhw’n dod yma’n gyson y tymor nesaf,” meddai cyn-fachwr Cymru.
Bydd Luke Charteris yn chwarae ei ganfed gêm dros y Dreigiau tra bod y cefnwr 17 oed Hallam Amos yn dechrau gêm i’r rhanbarth am y tro cyntaf.
Mae’n bosibl bydd Robert Sidoli yn croesi’r trothwy o chwarae 2000 o funudau i’r Dreigiau y tymor hwn, os daw ymlaen fel eilydd.
Gêm i ddechrau heno am 7.05, yn fyw ar BBC 2 Cymru.
Gweilch: 15 Ross Jones, 14 Hanno Dirksen, 13 Tom Isaacs, 12 Andrew Bishop, 11 Shane Williams, 10 Dan Biggar, 9 Rhys Webb, 1 Ryan Bevington, 2 Richard Hibbard, 3 Adam Jones, 4 Alun Wyn Jones (Capten), 5 Ian Evans, 6 Ryan Jones, 7 Justin Tipuric, 8 Joe Bearman
Eilyddion: 16 Scott Baldwin, 17 Paul James, 18 Joe Rees, 19 James King, 20 Tom Smith, 21 Kahn Fotuali’i, 22 Matthew Morgan, 23 Ashley Beck
Dreigiau: 15 Hallam Amos, 14 Tonderai Chavhanga, 13 Adam Hughes, 12 Ashley Smith, 11 Aled Brew, 10 Lewis Robling, 9 Wayne Evans, 1 Nathan Williams, 2 Steve Jones, 3 Nathan Buck, 4 Luke Charteris (Capten), 5 Jevon Groves, 6 Danny Lydiate, 7 Lewis Evans, 8 Toby Faletau
Eilyddion: 16 Sam Parry, 17 Phil Price, 18 Dan Way, 19 Rob Sidoli, 20 Tom Brown, 21 Joe Bedford, 22 Martyn Thomas, 23 Pat Leach