Rhys Priestland -'y maswr sy'n chware orau'
Mae cyn gapten Cymru, Jonathan Davies, wedi galw am roi’r crys rhif 10 i Rhys Priestland o’r Scarlets ar gyfer gêm yr Alban.

Fe ddywedodd y cyn chwaraewr undeb a chynghrair mai chwaraewr ifanc y Scarlets yw’r maswr sy’n chwarae orau yng Nghymru ar hyn o bryd.

Fe fyddai’n gosod maswr dydd Sadwrn, Stephen Jones, ar y fainc er mwyn sicrwydd, meddai wrth Radio Wales.

Fe awgrymodd y gallai James Hook hefyd fod ar y fainc, gyda chanolwr y Scarlets, y Jonathan Davies arall, yn cael blaenoriaeth drosto.

Fe fyddai hynny’n golygu bod Lee Byrne o’r Gweilch yn dod yn ôl i safle’r cefnwr er gwaetha’i gamgymeriadau ar ôl dod ymlaen yn eilydd nos Wener yn erbyn Lloegr.

Moore yn beirniadu hefyd

Roedd angen bod yn fwy mentrus, yn ôl Jonathan Davies, ac mae un o gyn-arwyr Lloegr, Brian Moore, hefyd wedi beirniadu’r Cymry am fethu â chreu digon.

Doedd canolwyr cryf Cymru, Davies a Jamie Roberts, ddim wedi cael cyfle i wneud dim, meddai’r cyn fachwr.