Luke Charteris - y cais cynta
Y Dreigiau 26 Scarlets 9

Fe fydd y Dreigiau’n wynebu Caerloyw yn rownd gynderfynol Cwpan LV= ar ôl curo’r Scarlets yn Rodney Parade.

Tri chais gyda’r gwynt yn yr ail hanner a ddaeth â’r fuddugoliaeth ar ôl i’r ymwelwyr fod ar y blaen o 9-6 yn gynnar yn yr ail hanner.

Yn y diwedd, roedd y Dreigiau’n rhy gry’ i dîm ifanc, dibrofiad y Scarlets, gyda chais gan yr ail reng, Luke Charteris, ac yna dau gan y cefnwr Martyn Thomas sy’n ôl wedi anaf tymor hir.

Roedd yna 11 pwynt i’r maswr Matthew Jones hefyd – tair cic gosb ac un trosiad – a Dan Evans a gafodd unig bwyntiau’r Scarlets gyda thair cic gosb.

Dyma’r tro cynta’ ers chwe gêm i’r Dreigiau guro’r Scarlets.