John Yapp
Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau y bydd John Yapp a Richie Rees yn gadael y Gleision ar ddiwedd y tymor i fynd i Gaeredin.
Fe wnaeth Yapp ymddangos yn gyntaf i Gaerdydd adeg Nadolig yn 2002 yn erbyn Glyn Ebwy yn 18 oed. Ers hynny, mae John Yapp wedi gwneud 161 o ymddangosiadau i’r Gleision. Enillodd ei gap rhyngwladol cyntaf yn 2005, pan wnaeth y crysau cochion gipio’r Gamp Lawn.
‘‘Rwyf wedi bod gyda Chaerdydd ers i mi fod yn 17 oed, ac wedi cael amser gwych yma. Mae’n amser hir i fod gydag un tîm, felly mae’n bryd i gael sialens newydd,’’ meddai Yapp.
‘‘Mae yna lawer o bobl i ddiolch, ond David Young yw’r person sydd wir wedi datblygu fy ngyrfa. Bu llawer o uchafbwyntiau yn ystod fy nghyfnod yma, gyda’r buddugoliaethau yn yr EDF, y Cwpan Amlin a’r Cwpan Heineken. Yn ogystal, rwyf wedi gwneud ffrindiau da iawn, a byddaf yn colli nhw. Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sy’n gysylltiedig gyda’r Gleision yn y dyfodol,’’ ychwanegodd Yapp.
Hefyd cyhoeddodd mewnwr Caerdydd Richie Rees ym mis Mawrth ei fod am adael y Gleision i ymuno â Chaeredin. Ymunodd Rees a’r Gleision yn 2007. Fe wnaeth 97 o ymddangosiadau ar gyfer y Gleision, gan sgorio 5 cais. Enillodd ei gap rhyngwladol gyntaf yn erbyn Lloegr yn 2010 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a sgoriodd ei gais rhyngwladol gyntaf yn erbyn Awstralia yn 2010 yn y gemau prawf ym mis Hydref.