Warren Gatland
Mae hyfforddwr Cymru wedi gwadu ei fod yn teimlo’r pwysau ar ôl i Gymru golli gêm arall – yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad.

Roedd rhaid i rywun golli, meddai Warren Gatland, a’r piti oedd mai’r Cymry oedd y rheiny, gan fynd yn groes i farn y rhan fwya’ o’r papurau newydd.

Mae’r rheiny’n awgrymu y gallai Lloegr fod wedi ennill o lawer mwy na 26-19 gyda Chymru’n cael eu beirniadu am ddiffyg dychymyg a chael eu chwalu yn y blaenwyr.

Ond, yn ôl Warren Gatland, doedd dim llawer o wahaniaeth rhwng y ddau dîm. “Ar adegau, ro’n i’n meddwl ein bod ni’n ffantastig,” meddai.

“Dw i ddim yn teimlo ein bod ni’n rhy bell. Dw i ddim yn credu y bydd Lloegr yn mynd trwy’r gystadleuaeth heb golli ac, os byddwn ni’n gallu curo’r Alban a’r Eidal, fe fyddwn ni’n ôl ynddi hi.”

Roedd yn rhoi’r bai ar rai camgymeriadau ac ar y penderfyniad i gicio ambell dro pan oedd Lloegr i lawr i 14 dyn.