Cymru
19-26 Lloegr

Roedd dechrau siomedig i’r Chwe Gwlad i Gymru wrth iddyn nhw golli gartref yn erbyn Lloegr am y tro cyntaf ers 2003.

Dechreuodd Cymru yn gryf ond Lloegr oedd ar y blaen drwy gydol y gêm ar ôl i’r crysau coch fethu a chymryd eu cyfleoedd.

Dechreuodd Cymru yn dda a rheoli’r meddiant am ddeg munud cyntaf y gêm, ond methodd Stephen Jones a James Hook giciau gosb.

Ar ôl naw munud fe gafodd Lloegr afael ar y bêl a sgorio cais ar eu taith cyntaf i mewn i hanner y Cymry.

Agorodd amddiffyn Cymru fel y môr coch gan adael Toby Flood drwodd, a basiodd i Chris Ashton a lamodd drosodd fel deryn i ddŵr.

Ciciodd Toby Flood gic gosb funudau yn ddiweddarach ac roedd Lloegr 10 pwynt ar y blaen o fewn 20 munud.

Daeth y pwyntiau cyntaf i Gymru ar ôl i James Haskell droseddu yn y sgarmes.

Bum munud yn ddiweddarach roedd rhagor o newyddion da i Gymru wrth i Louis Deacon fynd dros ben sgarmes a tharo’r bêl o ddwylo Mike Phillips. Cafodd gerdyn melyn a ciciodd Stephen Jones y pwyntiau.

Tarodd Lloegr yn ôl yn syth gyda chic gosb gan Toby Flood ar ôl i Adam Powell gicio’r bêl allan o sgarmes. Roedden nhw 6-13 ar y blaen.

Cafodd Gymru gyfle da i sgorio cyn hanner amser ond penderfynodd Shane Williams gicio’r bêl ymlaen yn hytrach na’i basio ac fe aeth dros yr ystlys.

Aeth pethau yn erbyn Cymru o ddechrau yr ail hanner gyda cherdyn melyn i brop Cymru, Craig Mitchell, ar ôl iddo roi ei ddwylo yn y sgarmes.

Sgoriodd Lloegr gais yn fuan wedyn ar ôl cyfnod wedi gwersylla ar linell gais Cymru. Ar ôl sawl munud o geisio torri drwy bac Cymru cafodd y bêl ei basio ar draws a sgoriodd Chris Ashton ei ail gais.

Roedd Cymru 9-23 ar ei hol hi ac angen sgorio’n fuan er mwyn cael gobaith o ennill. Ymosododd Cymru a llwyddodd Jon Davies i roi’r bêl yn nwylo Stoddard a ddisgynodd dros y llinell.

Ymosododd Lloegr eto a roedden nhw blisgyn chwannenn o’r llinell gais ond daeth y cyfan i ben ar ôl pas ymlaen.

Daeth cic gosb i Gymru yn fuan wedyn ar ôl i Shontayne Hape gael ei ddal yn camsefyll mewn sgarmes. Ciciodd Hook y pwyntiau gan ddod a’r sgôr i 19-23.

Roedd y dyrfa yn canu unwaith eto ond daeth torcalon o fewn munudau wrth i Loegr gael cic gosb arall wedi i Lee Byrne fethu a rhyddhau’r bêl.

Mae gan Gymru gemau caled oddi cartref yn erbyn Yr Alban a’r Eidal o’u blaenau nhw dros yr wythnos nesaf, cyn dychwelyd i Stadiwm y Mileniwm er mwyn herio Iwerddon.

Mae gan Loegr dair gêm yn Twickenham i edrych ymlaen atyn nhw a phob gobaith o chwarae am Gamp Lawn yn erbyn Iwerddon ar y penwythnos olaf.