Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi nawdd newydd gan ddau gwmni cwrw heddiw.

Mae cwmni Brains o Gaerdydd yn parhau fel cwrw swyddogol yr undeb, tra bod cwmni Heineken yn dod yn Bartner Swyddogol lager a seidr yr undeb.

Bydd y ddau nawdd yn dechrau o’r newydd ym mis Mehefin eleni ac yn parhau hyd 2016.

Golyga hyn y bydd cwrw Brains yn cael ei werthu yn Stadiwm y Mileniwm wrth ochr cwrw Heineken, Fosters a Strongbow. Yn ôl y bragwr o Gaerdydd mae dros filiwn o beintiau Brains wedi’u gwerthu yn y stadiwm ers 2004.

Arddangos cynnyrch

Bu Brains yn noddi crysau’r tîm cenedlaethol o 2004 i 2010, cyfnod a welodd dwy Gamp Lawn a sylw yn y wasg i’r noddwr pan roddwyd Brawn ar y crysau ym Mharis yn 2005 er mwyn peidio tramgwyddo’r  rheolau yn Ffrainc yn erbyn hysbysebu alcohol mewn chwaraeon.

Yn 2010 dechreuodd y cwmni yswiriant Admiral noddi’r crys, a daeth Brains yn ‘gwrw swyddogol Undeb Rygbi Cymru’.

Dywedodd Scott Waddington, Prif Weithredwr Brains, ei fod yn edrych ymlaen at weld ei gynnyrch yn “gwrw swyddogol enillwyr Cwpan y Byd 2015”.

Dywedodd Lawson Mountstevens, Rheolwr Gyfarwyddwr UK on Trade Heineken, “Gan ein bod ni wedi cynnal pedair ffeinal Cwpan Heineken yn Stadiwm y Mileniwm ry’n ni’n gwybod cystal lle yw’r stadiwm i arddangos ein cynnyrch ni”.