Martin Johnson
Mae hyfforddwr Lloegr, Martin Johnson, wedi annog ei dîm i fod yn ddidostur a chymryd mantais o’r pwysau sydd ar Gymru er mwyn sicrhau buddugoliaeth heno.
Dyw Cymru ddim wedi ennill yr un o’u saith gêm ddiweddaraf a dywedodd Johnson bod y pwysau i gyd ar ysgwyddau chwaraewyr Cymru.
“Os nad ydych chi wedi ennill ers cyfnod hir, rydych chi’n dechrau amau a fyddwch chi’n ennill gêm eto,” meddai Johnson.
“Mae’n rhaid i ni sicrhau nad ydym ni’n rhoi hyder iddyn nhw.”
Dywedodd Martin Johnson ei fod yn mwynhau gemau sydd ag ychydig o “sbeis” yn perthyn iddyn nhw.
Ond ychwanegodd mai ar y cae y mae gemau’n cael eu hennill ac nid yn y papurau newydd.
“Mae llawer iawn wedi ei ddweud cyn y gêm, a’r mwyafrif gan Gymru. Ond beth sy’n digwydd ar y cae fydd yn penderfynu beth yw’r canlyniad.”
Ychwanegodd bod buddugoliaeth dros Awstralia yn yr hydref wedi bod yn hwb i hyder ei chwaraewyr.
“Mae yna naws gwahanol yn y garfan ac rwy’n credu bod hynny wedi dod o ganlyniad i ennill rhai o’r gemau mawr,” meddai.
“Mae yna hyder y gallen ni lwyddo yn erbyn unrhyw dim.”