Shane Williams
Mae Shane Williams wedi dweud ei fod yn gobeithio ennill y Chwe Gwlad a llwyddo yng Nghwpan y Byd cyn ymddeol o’r gêm ryngwladol.

Fe fydd yr asgellwr yn ymddeol ym mis Hydref ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd.

Bydd ei flwyddyn olaf ar y lefel rhyngwladol yn dechrau yn erbyn Lloegr heno, ac mae Williams am wneud y mwyaf o’r amser sy’n ganddo’n weddill mewn crys coch.

“Mae’n anodd derbyn mai dyma fydd fy Chwe Gwlad olaf. Dw i ddim eisiau rhoi’r gorau i chwarae dros Gymru, ond mae’n rhaid i mi fod yn realistig,” meddai Shane Williams.

“Dw i ddim am i rywun orfod dweud wrtha’i am roi’r gorau i chwarae am fy mod i’n rhy hen. Dw i ddim yn barod i orffen eto, ond mae sawl chwaraewr ifanc yn gwthio le ar yr asgell.

“Y nod yw cael blwyddyn lwyddiannus gyda Chymru – ennill y Chwe Gwlad a gwneud yn dda yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

“Fe fyddwn i’n gallu edrych ‘nôl a dweud fy mod i wedi gadael ar nodyn uchel.”