Luke Charteris yn holliach
Mae clo’r Dreigiau, Luke Charteris wedi ymuno â charfan Cymru wrth iddyn nhw baratoi i herio’r Eidal ddydd Sadwrn.

Dyw Charteris heb chwarae i Gymru ers pencampwriaeth Cwpan y Byd ym mis Tachwedd.

Fe anafodd ei arddwrn bryd hynny ac mae wedi gorfod cael llawdriniaeth i gywiro’r anaf.

Dychwelodd i dîm y Dreigiau wrth iddyn nhw golli i Munster yng Nghynghrair y Rabbo Pro Direct nos Wener, a llwyddo i bara 80 munud yn yr ail reng.

Mae’r newyddion yn golygu bod cyfle ganddo i fod yn y garfan o 22 fydd yn herio’r Eidalwyr yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Bydd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn enwi ei dîm ar gyfer y gêm honno yfory (dydd Mawrth).

Mae’n newyddion da pellach i Gatland, sydd eisoes wedi gallu croesawu Alun Wyn Jones yn ôl i’r ail reng wedi iddo yntau fethu gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Y canolwr Jamie Roberts yw’r unig amheuaeth mawr ar hyn o bryd wedi iddo anafu ei ben-glin yn erbyn Lloegr yr wythnos diwethaf.