Ben Morgan
Mae’r Sgarlets wedi cyhoeddi’r prynhawn yma fod wythwr Lloegr wedi arwyddo cytundeb tair-blynedd i ymuno a chlwb Caerloyw ar ddiwedd y tymor hwn.

Cafodd Ben Morgan ei fagu yn Swydd Gaerloyw ond daeth i Gymru yn 18 oed er mwyn datblygu ei yrfa rygbi. Chwaraeodd dros Ferthyr, Llanelli a rhanbarth y Sgarlets, a bu’n pendroni am fisoedd p’un ai i chwarae dros Gymru neu dros Loegr.

Ym mis Ionawr cyhoeddodd ei fod wedi dewis chwarae dros hen wlad ei dadau ac mae wedi ennill tri chap dros Loegr ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

‘Teyrngar’

Dywedodd Ben Morgan: “Fel un sy’n falch o fod yn Sais credaf ei bod hi’n well nawr i fi ddatblygu fy ngyrfa yn uwch-gynghrair yr Aviva ac yn fy ngwlad enedigol.

“Mae wedi bod yn dair blynedd gwych cael chwarae ar Barc y Scarlets a byw yn Llanelli ble mae’r cefnogwyr wedi bod mor deyrngar, croesawgar a chefnogol.

“Mae bod yn Sgarlad yn fwy na dim ond rhoi crys ymlaen a rhedeg ar y cae; mae ‘na ystyr, treftadaeth a diwylliant ynghyd â gwerthoedd cryf yn rhan o’r holl brofiad. Bydd hynna’n aros gyda fi”.

Dywedodd prif hyfforddwr y Sgarlets, Nigel Davies: “Mae Ben yn berson myfyrgar ac mae wedi ystyried yr opsiynau gorau yng nghyd-destun datblygu ei yrfa. Mae Ben yn Sais balch, a rydym yn parchu hynna ac yn deall ei ddyhead i ddychwelyd adre i ddatblygu ei yrfa gyda Lloegr.

“Rydym yn dymuno’n dda iddo fe a’i glwb newydd Caerloyw, clwb sy’n rhannu’r un gwerthoedd â ni.”