Mae’r Gweilch wedi cadarnhau fod y prop pen-rhydd Ryan Bevington wedi arwyddo cytundeb newydd dwy-flynedd gyda’r rhanbarth.

Nos Wener chwaraeodd Bevington ei hanner-canfed gem dros y Gweilch yn y golled siomedig i Glasgow, a heddiw cyhoeddodd y Gweilch fod y chwaraewr 23 oed yn mynd i aros gyda’r rhanbarth.

Mae gan Ryan Bevington saith cap dros Gymru a mae’n cael ei ystyried fel olynydd posib i Gethin Jenkins yng ngharfan Cymru. Mae’n gynnyrch clwb rygbi Porthcawl ac wedi cynrychioli Cymru ar bob lefel oedran.

Cytundeb newydd

“Rwyf wrth fy modd i fedru arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gweilch. Rwy’ wedi bod yma ers fy mod i’n 15 oed, wedi dod trwy’r system, a hoffwn i roi rhywbeth nôl i’r rhanbarth.

“Bydd hi’n ddwy flynedd fawr i fi’n bersonol.Gobeithio caf i fwy o gyfle i chwarae, dyna’r targed cyntaf, a wedyn hoffwn i helpu’r Gweilch i ennill tlysau.”

Bydd cadw Bevington ar y Liberty yn galondid i’r Gweilch ar ôl i gymaint o enwau mawr gyhoeddi y byddan nhw’n gadael neu’n ymddeol, yn eu plith Shane Williams, Tommy Bowe, a Huw Bennett.

Ym mis Chwefror cyhoeddodd y Gweilch fod prop pen-tynn Cymru Adam Jones wedi gwrthod y demtasiwn i fynd i Ffrainc , ac iddo yntau, fel Bevington, arwyddo cytundeb newydd dwy flynedd gyda’i ranbarth leol.