Roger Lewis
Fe fydd Undeb Rygbi Cymru’n cydweithio gyda’r rhanbarthau i sicrhau dyfodol y gêm am flynyddoedd i ddod.
Dyna addewid Prif Weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, wrth i’r pedwar rhanbarth wynebu argyfwng ariannol ac wrth i fwy a mwy o chwaraewyr benderfynu gadael Cymru am Ffrainc.
Mewn cyfweliad gyda’r rhaglen deledu, Scrum V, roedd Roger Lewis yn pwysleisio’r angen i gydweithio – mae rhwygiadau rhwng yr undeb a’r rhanbarthau wedi bod yn llestair yn y gorffennol.
Roedd yn mynnu bod modd diwygio’r drefn er mwyn sicrhau dyfodol tymor hir i’r gêm – un syniad sy’n cael ei drafod yw cytundebau o’r canol i helpu’r rhanbarthau i gadw chwaraewyr rhyngwladol.
Rhai’n mynd, ond Jonathan yn aros
Ond fe ddywedodd ar yr un pryd nad oedd modd rhwystro pob chwaraewr rhag gadael am Ffrainc lle mae’r clybiau’n talu cyflogau mawr.
Er hynny, roedd yna newyddion da i Gymru, wrth i ganolwr rhyngwladol y Scarlets, Jonathan Davies, gadarnhau ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd dwy flynedd gyda’r rhanbarth.