Caerdydd 0–2 West Ham

Mae Caerdydd wedi disgyn i’r wythfed safle yn y Bencampwriaeth ar ôl colli yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sul.  Roedd West Ham yn well tîm ar y diwrnod ac efallai fod peth blinder yng nghoesau’r Adar Gleision o hyd ar ôl y gêm fawr yn Wembley’r wythnos diwethaf.

Daeth Kenny Miller yn agos i’r tîm cartref wedi 13 munud gydag ymdrech o 25 llath a heibio’r postyn a aeth ergyd Aron Gunnarsson o’r un pellter wedi 36 munud hefyd.

Ond yr ymwelwyr a oedd y tîm gorau mewn gwirionedd a daeth eu cyfleoedd gorau i chwaraewr rhyngwladol Cymru, Jack Collison. Saethodd foli dros y trawst wedi chwarter awr ac ergydiodd yn rhy uchel unwaith eto o ochr y cwrt cosbi ddeg munud cyn yr egwyl.

Ond roedd ei dîm ar y blaen erbyn hanner amser diolch i gôl Kevin Nolan wedi 43 munud. Camgymeriad Gunnarsson a gyflwynodd y bêl i Nicky Maynard ar ochr y cwrt cosbi a gorffennodd Nolan yn gelfydd ar ôl derbyn y bêl gan Maynard ar ochr chwith y bocs.

Bu bron i Ricardo Vaz Te ddyblu mantais West Ham wedi dim ond tri munud o’r ail hanner ond er i’r ymosodwr guro’r gôl-geidwad, David Marshall, roedd Mark Hudson wrth law i glirio’r perygl. A gwnaeth Marshall yn dda iawn i atal Maynard wedi 55 munud.

Ychydig iawn a greodd Caerdydd yn y pen arall ond dylai Hudson fod wedi unioni’r sgôr wedi 65 munud ond peniodd dros y trawst yn dilyn tafliad hir Gunnarsson.

Tarodd Peter Wittingham y postyn gyda chic rydd wych dri munud yn ddiweddarach hefyd ond doedd fawr o syndod gweld West Ham yn sicrhau’r fuddugoliaeth gyda’r ail gôl wedi 77 munud. Aeth George McCartny ar rediad gwych ar yr asgell chwith a methodd Ben Turner â chlirio’r perygl wrth i’r bêl ddod yn ôl i McCartny. Llithrodd yntau hi heibio Marshall i sicrhau’r tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn gorffen y penwythnos allan o’r safleoedd ail gyfle yn wythfed yn y tabl.  Roedd Brighton, Birmingham, Middlesbrough a Blackpool eisoes wedi cipio pwyntiau yn gynharach yn y penwythnos a methodd yr Adar Gleision gyfle i neidio’n ôl drostynt. Maent bellach un ar ddeg pwynt tu ôl i West Ham yn yr ail safle.