Lido Afan 5-1 Caerfyrddin

Sicrhaodd tair gôl ail hanner fuddugoliaeth gyfforddus i Lido Afan yn erbyn Caerfyrddin yn Stadiwm Marstons nos Wener.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 19 munud pan rwydodd Kristian James gôl agoriadol wych o 25 llath ond roedd yr ymwelwyr o Gaerfyrddin yn gyfartal naw munud yn ddiweddarach diolch i gôl lawn cystal Corey Thomas o 20 llath.

Ond roedd Lido yn ôl ar y blaen chwe munud cyn yr egwyl wedi i Tim Hicks sgorio i’w rwyd ei hun.

Mantais fain i Lido ar yr egwyl felly ond roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus yn y diwedd wedi iddynt ychwanegu tair arall yn yr ail hanner. Sgoriodd Andrew Hill wedi 48 munud ac yna Leaon Jeanne gyda chic rydd wedi 56 munud.

Cwblhaodd Hill y sgorio o’r smotyn bum munud cyn y diwedd wrth i’r tîm cartref ennill yn gyfforddus.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Lido i’r seithfed safle er y gallai Airbus adennill y safle hwnnw ddydd Sul. Mae Caerfyrddin ar y llaw arall yn aros yn yr unfed safle ar ddeg.

Y Seintiau Newydd 3-2 Bala

Bu rhaid i’r Seintiau frwydro’n ôl wedi bod ar ei hôl hi ddwywaith i guro’r Bala yn Neuadd y Parc nos Wener.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen ar hanner amser wedi i Lee Hunt sgorio o’r smotyn yn dilyn trosedd Chris Marriott ar Stuart Jones yn y cwrt cosbi bedwar munud cyn yr egwyl.

Unionodd Nicky Ward bethau wedi 57munud gyda chic rydd daclus iawn o 25 llath cyn i Hunt sgorio’i ail o’r gêm i adfer mantais y Bala ar yr awr.

Ond brwydrodd y Seintiau yn ôl eto yn yr hanner awr olaf ac roeddynt yn gyfartal wedi 67 munud diolch i gôl yr eilydd, Chris Seargeant. A chipiodd Greg Draper y tri phwynt i’r tîm cartref pan beniodd groesiad Simon Spender heibio Terry McCormick yn y gôl i’r Bala gyda chwe munud yn weddill.

Mae’r Seintiau yn parhau yn ail wedi’r fuddugoliaeth ond dim ond un pwynt sydd yn eu gwahanu hwy a Bangor ar y brig bellach. Mae’r Bala ar y llaw arall yn aros yn bumed.

Port Talbot 1–1 Y Drenewydd

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Bort Talbot groesawu’r Drenewydd i Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr rhoddodd Nick Rushton yr ymwelwyr ar y blaen toc cyn yr awr.

Ond sgoriodd Lee John i Bort Talbot hanner ffordd trwy’r ail hanner i sicrhau pwynt i’r Gwŷr Dur.

Nid yw’r canlyniad yn newid dim yn nhabl yr Uwch Gynghrair wrth i Bort Talbot aros yn nawfed a’r Drenewydd ar y gwaelod yn y deuddegfed safle.

Prestatyn 1–2 Llanelli

Enillodd Llanelli am y tro cyntaf mewn pum gêm gynghrair yn erbyn Prestatyn yng Ngerddi Bastion brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Rhys Griffiths yr ymwelwyr ar y blaen wedi wyth munud o’r ail hanner gyda’i ugeinfed gôl o’r tymor. A sicrhaodd yr eilydd, Jason Bowen, y tri phwynt gyda’r ail chwarter awr o’r diwedd.

Cafodd Lee Surman ei anfon oddi ar y cae i Lanelli funud o’r diwedd a sgoriodd Steve Rodgers gôl gysur i Brestatyn yn yr eiliadau olaf i dynnu ychydig o’r sglein oddi ar y fuddugoliaeth. Ond fydd Andy Legg ddim yn poeni gormod am hynny wrth i’w dîm ennill o’r diwedd.

Mae Llanelli yn aros yn bedwerydd er gwaethaf y fuddugoliaeth a Phrestatyn yn aros yn y chweched safle.

Bangor 1–3 Castell Nedd

Mae Castell Nedd yn ôl yn y ras am bencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru ar ôl curo Bangor yn Nantporth o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn. Chwaraeodd yr Eryrod yn wych yn yr hanner cyntaf gan sgorio tair gôl dda yn erbyn y pencampwyr. Ac er i Fangor dynnu un yn ôl yn gynnar yn yr ail hanner fe ddaliodd yr ymwelwyr eu gafael ar dri phwynt holl bwysig i symud o fewn pedwar pwynt i’r Dinasyddion ar y brig.

Airbus 3–2 Aberystwyth

Dychwelodd Airbus i’r seithfed safle holl bwysig yn yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth hwyr yn erbyn Aberystwyth ar Y Maes Awyr brynhawn Sul. Rhwydodd Wyn Thomas i’w rwyd ei hun saith munud cyn y diwedd i gyflwyno’r tri phwynt i’r tîm cartref mewn gêm lawn goliau.

Daeth tair o’r goliau hynny mewn cyfnod o bum munud yn yr hanner cyntaf. Rhoddodd Sean Thornton Aber ar y blaen o’r smotyn wedi 33 munud ar ôl i Danny Grannon lawio yn y cwrt cosbi. Ond unionodd Mark Cadwallader i Airbus wedi 37 munud cyn i Grannon rwydo’r ail funud yn ddiweddarach.

Brwydrodd yr ymwelwyr yn ôl wedi’r egwyl a tharodd Thornton y postyn unwaith cyn sgorio i unioni’r sgôr wedi 69 munud.

Cafodd Wyn Thomas gyfle i ennill y gêm i Aber wedi hynny ond peniodd yn erbyn y trawst o gic gornel Andy Parkinson. Fe ddaeth Thomos o hyd i’r rhwyd saith munud o’r diwedd ond yn y gôl anghywir wrth i Airbus gipio’r tri phwynt mewn gêm flêr.

Mae’r tri phwynt hwnnw yn eu codi yn ôl i’r seithfed safle tra mae Aberystwyth yn aros yn y degfed safle.