Luke Charteris yn chwarae 80 munud
Dreigiau 14–24 Munster
Colli fu hanes y Dreigiau yn y RaboDirect Pro12 ar Rodney Parade nos Sadwrn wedi i Munster sgorio dau gais yn y chwarter awr olaf. Y rhanbarth o Gymru a oedd ar y blaen am ran helaeth o’r gêm yn dilyn cais da iawn yn yr hanner cyntaf ond sgoriodd Luke O’Dea a Felix Jones yn hwyr yn y gêm i gipio’r fuddugoliaeth i’r Gwyddelod.
Hanner Cyntaf
Yr ymwelwyr a gafodd y pwyntiau agoriadol wedi dim ond tri munud ar ôl i bac y Dreigiau ddymchwel sgrym gyntaf y gêm. Cic hawdd i’r maswr, Ian Keatley, a mantais gynnar i’r Gwyddelod.
Ond y Dreigiau a gafodd y gorau o’r tîr a’r meddiant wedi hynny ac roeddynt yn llawn haeddu dod yn gyfartal wedi 18 munud diolch i gic gosb o droed Lewis Robling.
Ac roedd mwy i ddod hefyd, wrth i’r Cymry sgorio cais cyntaf y gêm ddau funud yn ddiweddarach. A thipyn o gais ydoedd hefyd, rhediad lledrithiol o’r llinell hanner gan y cefnwr, Will Harries, a’r gwaith cefnogi gan y canolwr a’r capten, Ashley Smith. Methodd Robling y trosiad ond roedd y Dreigiau bum pwynt ar y blaen wedi chwarter y gêm.
Roedd y sgrym yn broblem i’r Dreigiau a chosbwyd nhw eto wedi 24 munud a chiciodd Keatley y tri phwynt. Ac roedd Munster yn ôl ar y blaen dri munud yn ddiweddarach yn dilyn cic gosb arall gan Keatley, y Dreigiau’n troseddu yn ardal y dacl y tro hwn.
Ond pharodd y fantais honno ddim yn hir wrth i Robling gicio tri phwynt i’r Dreigiau ddau funud yn ddiweddarach i roi’r tîm cartref ar y blaen ar yr egwyl.
Ail Hanner
Cafwyd 20 munud cyntaf digon diflas i’r ail hanner wrth i Munster arafu’r bêl yn gyson yn ardal y dacl. O’r diwedd, wedi 58 munud cafodd un o’i chwaraewyr ei anfon i’r gell gosb a gyda’r mewnwr, Tomas O’Leary oddi ar y cae fe drosodd Robling gic gosb arall i ymestyn mantais y Dreigiau i bum pwynt gyda chwarter awr yn weddill.
Roedd hi’n edrych yn addawol i’r Dreigiau felly ond roedd y Gwyddelod yn gyfartal wedi 68 munud diolch i gais O’Dea. Daeth yr eilydd faswr, Scott Deasy, o hyd i’r asgellwr gyda phas hir wych a thiriodd yntau yn y gornel. Ac er i Deasy fethu’r trosiad roedd Munster ar y blaen bedwar munud yn ddiweddarach wedi i’r eilydd lwyddo gyda chic gosb. 17-14 i’r Gwyddelod gyda saith munud ar ôl.
Doedd y Dreigiau ddim yn haeddu colli ond roedd deg pwynt rhwng y ddau dîm yn y diwedd yn dilyn cais Jones i’r ymwelwyr bum munud o’r diwedd. Taflodd blaenasgellwr y Dreigiau, Lewis Evans, bas wael ar y llinell hanner a chasglodd cefnwr Munster y bêl cyn rhedeg o dan y pyst. 24-14 i’r Gwyddelod yn dilyn trosiad Deasy a chanlyniad siomedig i’r rhanbarth o Gymru.
Mae’r Dreigiau yn aros yn y nawfed safle yn nhabl y Pro12.
Y newyddion gorau o’r gêm i’r Dreigiau oedd i’r clo, Luke Charteris, chwarae 80 munud. Mae hynny’n newyddion da i Gymru hefyd wrth gwrs.