Southport 1–1 Casnewydd

Cipiodd Casnewydd bwynt yn erbyn Southport yn Haig Avenue brynhawn Sadwrn er gwaethaf y ffaith iddynt chwarae bron i hanner y gêm gyda deg dyn. Unionodd Ismail Yakubu i Gasnewydd yn hwyr yn yr hanner cyntaf a daliodd tîm Justin Edinburgh eu gafael ar y pwynt er i Andrew Hughes gael ei anfon o’r cae yn gynnar yn yr ail.

Roedd Casnewydd ar ei hôl hi wedi 18 munud pan sgoriodd Gary Warren i’w rwyd ei hun yn dilyn cic gornel Shaun Walley.

Ond roedd yr ymwelwyr yn ôl yn y gêm bum munud cyn yr egwyl pan beniodd Iakubu groesiad Andy Sandell heibio Tony McMillan ac i gefn y rhwyd.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd tasg anodd yn wynebu Casnewydd wedi saith munud o’r ail gyfnod wedi i Hughes dderbyn cerdyn coch. Roedd wedi derbyn un cerdyn melyn eisoes yn eiliadau cyntaf yr ail hanner a derbyniodd yr ail yn fuan wedyn yn dilyn trosedd ar Whalley.

Ond er iddynt orfod chware 40 munud gyda deg dyn ychydig iawn fu rhaid i Glyn Thompson yn y gôl i Gasnewydd ei wneud wrth iddi orffen yn gyfartal.

Mae Casnewydd yn disgyn un lle i’r ail safle ar bymtheg yn Uwch Gynghrair Blue Square er gwaethaf y gêm gyfartal gan i Stockport ennill yn Darlington. Ond gall y tîm o Gymru godi yn ôl uwch eu pennau gyda buddugoliaeth yn erbyn Braintree nos Fawrth.