Jamie Tolley - Sgoriwr Wrecsam
Kettering 0–1 Wrecsam
Roedd gôl Jamie Tolley hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Wrecsam yn erbyn Kettering ar Barc Nene yn Uwch Gynghrair y Blue Square brynhawn Sadwrn.
Dyfarnwyd cic rydd i’r Dreigiau wedi 23 munud pan gafodd Chris Westwood ei lorio gan Nathan Ralph ar ochr y cwrt cosbi. Cododd Westwood ar ei draed i gymryd y gic rydd ei hun ond yn hytrach nag ergydio chwaraeodd y bêl i Tolley a saethodd ef hi trwy’r mur amddiffynnol a heibio i Laurie Walker yn y gôl i Kettering.
Cafodd Mathias Pogba a Jake Speight gyfleoedd yn yr hanner cyntaf hefyd ond peniodd Pogba’n erbyn y trawst tra methodd Speight yn gyfan gwbl.
Roedd Kettering yn well wedi’r egwyl a bu rhaid i Joslain Mayebi fod ar flaenau ei draed i arbed cynnigion Danny Mills a Charlie Wyke ond daliodd y Dreigiau eu gafael ar y tri phwynt.
Ond mae Wrecsam yn aros bum pwynt y tu ôl i Fleetwood ar frig y Gyngres er gwaethaf y fuddugoliaeth gan iddyn nhw ennill o 3-0 oddi cartref yn Nhamworth. A gall y bwlch fod yn wyth pwynt erbyn dydd Mercher gan fod Fleetwood yn chwarae eto nos Fawrth felly bydd rhaid i Wrecsam guro Luton gartref nos Fercher i aros yn y ras.