Treviso 13–20 Gleision
Cipiodd y Gleision bedwar pwynt yn y RaboDirect Pro12 brynhawn Sadwrn gyda buddugoliaeth yn erbyn Treviso yn y Stadio Monigo. Er mai dim ond saith pwynt oedd ynddi yn y diwedd roedd hi’n fuddugoliaeth ddigon cyfforddus i’r tîm o Gymru a dim ond dau gais hwyr a sicrhaodd bwynt bonws i’r Eidalwyr.
Rhoddodd Dan Parks y Gleision ar y blaen gyda chic gosb wedi 17 munud cyn i’r maswr cartref, Willem De Waal, ymateb gyda thri phwynt i’r Eidalwyr wedi 26 munud.
Ond enillodd y Gleision y gêm i bob pwrpas yn neg munud olaf yr hanner cyntaf wrth sgorio dau gais. Daeth y cyntaf o’r rheiny i Martyn Williams wedi hanner awr yn dilyn rhediad da gan yr asgellwr, Chris Czekaj.
Sgoriodd yr eilydd asgellwr, Harry Robinson, yr ail ddau funud yn ddiweddarach a throsodd Parks y ddau gais i roi mantais o bedwar pwynt ar ddeg i’r Gleision ar yr egwyl.
Anfonwyd blaenasgellwr Treviso, Manoa Vosawai, i’r gell gosb yn gynnar yn yr ail hanner a chosbodd Parks y tîm cartref yn syth gyda chic gosb i’w gwneud hi’n 20-3 wedi pum munud o’r ail hanner.
Roedd Treviso yn well wedi hynny ond arhosodd y sgôr yr un peth tan saith munud o’r diwedd pan sgoriodd yr eilydd, Simon Picone, i’r tîm cartref.
A chafwyd diweddglo diddorol i’r gêm wedi i’r asgellwr, Brendan Williams, sgorio ail gais i’r Eidalwyr ddau funud cyn y diwedd. Ond methodd De Waal gyda’r ddau drosiad a methodd y tîm cartref a sgorio trydydd cais i sicrhau gêm gyfartal wrth iddi orffen yn 20-13 o blaid y Gleision.
Mae’r Gleision yn aros yn y seithfed safle yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y fuddugoliaeth ond dim ond pum pwynt sydd bellach yn gwahanu chwe thîm rhwng y Gweilch yn yr ail safle a’r Gleision yn seithfed. Gall hynny newid yn dilyn gêm Munster nos Sadwrn ond mae gan y Gleision gêm wrth gefn hefyd.