Wigan 0–2 Abertawe
Sicrhaodd dwy gôl Gylfi Sigurdsson fuddugoliaeth oddi cartref brin i Abertawe yn Stadiwm DW brynhawn Sadwrn. Sgoriodd y chwaraewr o Wlad yr Iâ o boptu hanner amser i sicrhau tri phwynt i’r Cymry yn erbyn Wigan yn yr Uwch Gynghrair.
Cafodd Nathan Dyer gyfle da i roi Abertawe ar y blaen yn y chwarter awr cyntaf ond ergydiodd yn syth at Ali Al Habsi yn y gôl i Abertawe. A bu bron i Scott Sinclair roi’r ymwelwyr ar y blaen wedi 39 munud pan gurodd Al Habsi cyn anelu at y gôl ond llwyddodd James McCarthy i atal ei gynnig ar y llinell.
Ond fe ddaeth y gôl i’r tîm o Gymru yn eiliadau olaf yr hanner pan gurodd Sigurdsson Al Habsi gydag ergyd wych. Derbyniodd bas dda gan yr amddiffynnwr, Steven Caulker, cyn taro chwip o ergyd i gefn y rhwyd o ugain llath.
1-0 ar yr egwyl felly ac roedd hi’n ddwy wedi llai na deg munud o’r ail hanner wedi i Sigurdsson sgorio o bellter am yr eilwaith. Dyfarnwyd cic rydd ar ochr y cwrt cosbi i’r Elyrch wedi i Dyer gael ei lorio gan Victor Moses a doedd gan Al Habsi ddim gobaith i atal ymdrech Sigurdsson.
Bu rhaid i Abertawe chwarae’r hanner awr olaf gyda deg dyn wedi Dyer dderbyn cerdyn coch am drosedd beryglus ar gyn chwaraewr yr Elyrch, Jordi Gomez. Ond er i Wigan bwyso yn chwarter olaf y gêm fe ddaliodd tîm Brendan Rodgers eu gafael ar y tri phwynt yn ddigon cyfforddus.
Daeth Hugo Rodellega yn agos ddeg munud o’r diwedd ond gwnaeth Michel Vorm arbediad da i gadw ei lechen lân, ei ddegfed yn y gynghrair y tymor hwn.
Efallai bod yr Elyrch yn aros yn y pedwerydd safle ar ddeg er gwaethaf y fuddugoliaeth ond o ran pwyntiau maent yn ddigon pell o safleoedd y gwymp. Un ar ddeg pwynt yn glir gydag un ar ddeg gêm ar ôl.