Bangor 1–3 Castell Nedd
Mae Castell Nedd yn ôl yn y ras am bencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru ar ôl curo Bangor yn Nantporth o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn. Chwaraeodd yr Eryrod yn wych yn yr hanner cyntaf gan sgorio tair gôl dda yn erbyn y pencampwyr. Ac er i Fangor dynnu un yn ôl yn gynnar yn yr ail hanner fe ddaliodd yr ymwelwyr eu gafael ar dri phwynt holl bwysig i symud o fewn pedwar pwynt i’r Dinasyddion ar y brig.
Hanner Cyntaf
Rhoddodd Luke Bowen y bêl yng nghefn rhwyd Bangor wedi llai na hanner munud yn dilyn pas dda gan Lee Trundle ond daeth y dyfarnwr cynorthwyol i’r adwy i’r tîm cartref. Barnwyd fod Bowen yn camsefyll er ei bod yn ymddangos fod cefnwr de Bangor, Peter Hoy, yn ei ‘chwarae ymlaen’.
Dihangfa gynnar i’r Dinasyddion felly ond arwydd o’r hyn a oedd i ddod yn yr hanner cyntaf. Dim ond dau funud oedd ar y cloc pan wnaeth Trundle yn wych i droi ar ochr y cwrt cosbi a gorfodi arbediad da gan gôl-geidwad Bangor, Lee Idzi.
Ond fu dim rhaid i’r ymwelwyr aros yn hir am y gôl agoriadol. Gwrthymosododd yr Eryrod yn gyflym a chroesodd Jack Lewis yn wych i Bowen wrth y postyn agosaf a churodd ef Idzi gyda’i gyffyrddiad cyntaf.
Cafodd Chris Jones gyfle da i ddyblu mantais Castell Nedd wedi ugain munud ond gwnaeth Idzi yn dda i’w atal. A gwnaeth Lee Kendal yn dda yn y pen arall i arbed ergyd nerthol Hoy bum munud yn ddiweddarach.
Ond Castell Nedd a Trundle a oedd yn rheoli popeth a doedd fawr hi’n o syndod pan sgoriodd yr Eryrod eu hail wedi hanner awr. Pas wych yr ymosodwr profiadol a ddaeth o hyd i Toby Jones yn y cwrt cosbi a sodlodd yntau’r bêl yn gelfydd i lwybr Bowen a sgoriodd yntau ei ail ef ac ail yr ymwelwyr. Gôl wych i’r ymwelwyr a thîm Kristian O’Leary’n haeddianol ar y blaen o ddwy gôl.
Ac roedd hi’n dair cyn yr egwyl wrth i Toby Jones gael gôl ei hunan. Roedd y blaenwr bach ifanc wedi cael hanner gwych a choronodd y cyfan gyda foli gelfydd o ongl dynn yn dilyn croesiad hir Luke Cummings bum munud cyn yr egwyl. Dipyn o gôl i Toby Jones a thipyn o hanner i’w dîm, 3-0 ar yr egwyl.
Ail Hanner
Roedd tair gôl Castell Nedd yn yr hanner cyntaf wedi bod o’r safon uchaf ond doedd Les Davies ddim am i ymosodwyr yr ymwelwyr gael y sylw i gyd a sgoriodd blaenwr Bangor gôl lawn cystal wedi dim ond dau funud o’r ail hanner. Achosodd tafliad hir Hoy broblemau i amddiffyn Castell Nedd ac er bod Les â’i gefn at y gôl dim ond un cyffyrddiad oedd ei angen arno i daro foli heibio Kendall i ddod a Bangor yn ôl i’r gêm.
Cafodd capten Bangor, James Brewerton, gyfle da â’i ben wedi 53 munud ond peniodd yr amddiffynnwr heibio i’r postyn.
Roedd Bangor yn dipyn gwell yn awr ond cafodd Castell Nedd gyfle gwych i sicrhau’r fuddugoliaeth ddau funud yn ddiweddarach serch hynny. Tarodd cynnig Trundle yn erbyn y postyn cyn i Craig Roberts atal ymgais Bowen ar y llinell.
Yna, bu rhaid i Idzi fod ar flaenau ei draed i arbed ergyd nerthol Chris Jones yn dilyn gwaith da ar yr asgell chwith gan ymosodwr Castell Nedd.
Cafodd Brewerton gyfle euraidd arall saith munud o’r diwedd ond peniodd dros y trawst pan ddylai fod wedi sgorio. A daeth cyfle da iawn i Mark Smyth yn y cwrt chwech ddau funud yn ddiweddarach ond taro’r rhwyd ochr a wnaeth yr eilydd.
Bu oedi hir wedyn tua diwedd y gêm yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Brewerton ac eilydd Castell Nedd, Kerry Morgan. Derbyniodd y ddau chwaraewr driniaeth ar y cae, derbyniodd Brewerton gerdyn coch a bu rhaid i Morgan adael y cae ar stretsier.
O ganlyniad roedd deg munud o amser anafiadau ar ddiwedd y gêm ond methodd deg dyn Bangor a tharo’n ôl wrth i Gastell Nedd ddal eu gafael ar y tri phwynt.
Ymateb
Buddugoliaeth dda iawn i Gastell Nedd felly ac roedd y rheolwr, Kristian O’Leary, yn hapus iawn ar ddiwedd y gêm:
“Rydyn ni wedi bod yn gwneud hynny ers sawl wythnos nawr. Mae’n rhywbeth yr ydym wedi bod yn gweithio arno, gadael i’r chwaraewyr fynegi eu hunain, ac roedd yn berfformiad gwych yn yr hanner cyntaf.”
Mae Bangor yn aros ar frig yr Uwch Gynghrair er gwaethaf y canlyniad heddiw ond dim ond un pwynt sydd yn eu gwahanu hwy a’r Seintiau yn yr ail safle bellach wedi iddyn nhw guro’r Bala nos Wener. Parhau yn drydydd mae Castell Nedd ond maent bellach o fewn pedwar pwynt i Fangor yn dilyn y fuddugoliaeth wych yma.