Scarlets 38-10 Connacht

Sicrhaodd y Scarlets bwynt bonws gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Connacht yn y RaboDirect Pro12 nos Wener. Sgoriodd Andy Fenby a Rhodri Jones geisiau yn yr hanner cyntaf cyn i Emyr Phillips, Kieran Murphy a Phil John dirio yn yr ail hanner i sicrhau pwyntiau llawn o’r gêm i’r tîm cartref ar Barc y Scarlets.

Sgoriodd yr asgellwr, Fenby, y cais cyntaf wedi ychydig dros chwarter awr ac ychwanegodd y prop, Jones, yr ail dri munud cyn yr egwyl. Llwyddodd Stephen Jones gyda’r ddau drosiad ac roedd cic gosb i faswr Connacht, Milah Nikora, rhwng y ddwy sgôr wrth i’r Scarlets orffen yr hanner ar y blaen o 14-3.

Llwyddodd Jones gyda chic gosb gynnar yn yr ail hanner cyn i glo Connacht, John Muldoon, dderbyn cerdyn melyn eiliadau’n unig wedi iddo ddod i’r cae fel eilydd. 14 pwynt o fantais i’r Scarlets yn erbyn 14 dyn felly.

A manteisiodd y tîm cartref yn llawn  wrth i’r prop, Phillips, sgorio trydydd cais y Cymry toc cyn yr awr. Ychwanegodd Jones y trosiad ac roedd y fuddugoliaeth bellach yn sâff i’r Scarlets.

Ond roedd gwell i ddod wrth i’r wythwr, Murphy, sicrhau pwynt bonws gyda’r pedwerydd cais wedi 63 munud.

Ac er i’r eilydd fachwr, Ethienne Reynecke, sgorio cais cysur hwyr i Gonnacht y Scarlets a gafodd y gair olaf wrth i’r eilydd o brop, Phil John, sgorio pumed cais y tîm cartref gyda symudiad olaf y gêm.

38-10 y sgôr terfynol felly a buddugoliaeth dda i Fois y Sosban.

Mae’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn codi’r Scarlets uwch ben y Gleision i’r chweched safle yn nhabl y Pro12, ddau bwynt yn unig i ffwrdd o’r pedwerydd safle holl bwysig.