Gweilch 20-26 Glasgow
Colli fu hanes y Gweilch yn erbyn Glasgow ar y Liberty yn y RaboDirect Pro12 nos Wener. Cafodd y Cymry eu cosbi am eu diffyg disgyblaeth wrth i’r Albanwyr sgorio hanner eu pwyntiau pan yr oedd y Gweilch lawr i bedwar dyn ar ddeg.
Hanner Cyntaf
Bu bron i asgellwr y Gweilch, Hanno Dirksen, sgorio yn y gornel dde yn y deg munud cyntaf yn dilyn bylchiad bywiog Rhys Webb ond gwnaeth blaenasgellwr yr ymwelwyr, Chris Fusaro, yn wych i’w atal rhag tirio.
Yr ymwelwyr yn hytrach a sgoriodd bwyntiau cyntaf y gêm a hynny wedi 13 munud o chwarae pan lwyddodd y maswr, Ruaridh Jackson, gyda chic at y pyst yn dilyn tacl hwyr gan Joe Bearman.
Ond dim ond ychydig dros funud a barodd y fantais wrth i Dirksen sgorio cais cyntaf y gêm wedi chwarter awr o chwarae. Torodd trwy dacl ar y llinell hanner cyn rhedeg yr holl ffordd at y pyst. Ychwanegodd Dan Biggar y trosiad i roi mantais o bedwar pwynt i’r Gweilch.
Ond roedd Glasgow yn ôl ar y blaen dri munud yn ddiweddarach wedi i’r prop, Jon Welsh, dirio yn dilyn sgarmes symudol gryf gan flaenwyr yr Albanwyr. Ychwanegodd Jackson y trosiad i adfer tri phwynt o fantais ei dîm.
Bu rhaid i’r Gweilch chwarae deg munud gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i’w capten, Tom Smith, gael ei anfon i’r gell gosb am drosedd yn ardal y dacl gyda Glasgow mewn safle addawol.
Llwyddodd Jackson gyda’r gic gosb ganlynol a chafodd y Gweilch eu cosbi ym mhellach wedi 34 munud pan sgoriodd yr agellwr, Colin Shaw, ail gais Glasgow. Sicrhaodd yr Albanwyr bêl gyflym am sawl cymal yn olynol ac roedd Shaw wrth law i sgorio o dan y pyst. Trosiad syml i Jackson felly a mantais o 13 pwynt i’r ymwelwyr.
Caewyd y bwlch hwnnw i ddeg pwynt diolch i gic gosb o droed Biggar ddau funud cyn yr egwyl, 20-10 i Glasgow ar hanner amser.
Ail Hanner
Cic gosb yr un gan y ddau faswr, Biggar a Jackson, oedd unig bwyntiau ugain munud cyntaf yr ail hanner wrth i Glasgow gadw eu deg pwynt o fantais.
Yna, derbyniodd y Gweilch eu hail gerdyn melyn o’r gêm gyda chwarter awr yn weddill, Ryan Bevington yn tynnu’r neidiwr i lawr yn y linell ac yn cael ei anfon i’r gell gallio am ddeg munud. Ac i rwbio’r halen yn y briw, llwyddodd Jackson i ymestyn mantais yr ymwelwyr yn syth gyda’r gic gosb, 26-13 gyda chwarter awr ar ôl.
Fe anfonwyd dau o chwaraewyr Glasgow i’r gell gosb yn y cyfnod hwnnw hefyd ac fe sgoriodd Kahn Fotuali’i gais i’r Gweilch gyda phum munud yn weddill. Methodd pac chwe dyn yr ymwelwyr ag ymdopi â sgarmes symudol y Gweilch a sgoriodd yr eilydd fewnwr.
Ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi i’r Gweilch er i drosiad Biggar sicrhau pwynt bonws i’r tîm cartref.
Mae’r pwynt bonws hwnnw’n ddigon i gadw’r Gweilch yn yr ail safle yn nhabl y Pro12 ond gall Munster neidio drostynt gyda buddugoliaeth dros y Dreigiau ddydd Sadwrn. Mae’r canlyniad yn rhoi Glasgow o fewn dau bwynt i’r rhanbarth o Gymru hefyd.
Roedd Tom Smith, Capten y Gweilch, yn barod i gydnabod mai diffyg disgyblaeth oedd y broblem wrth siarad â’r BBC ar ôl y gêm:
“Yn debyg iawn i’r wythnos diwethaf, fe gawsom ein lladd gan ein camgymeriadau ein hunain. Fe roddon ni ormod o bwyntiau iddyn nhw yn yr hanner cyntaf a doedd dim digon o amser inni daro’n ôl.”