Malcolm 'Malky' Mackay
Mae Malky Mackay wedi annog pawb yng nghlwb pêl-droed Caerdydd i uno gyda’i gilydd er mwyn gwthio am ddyrchafiad ar ddiwedd y tymor, gan ddechrau gyda’r gêm fawr yn erbyn West Ham ddydd Sul.
“Mae’r ffeinal yn Wembley y tu ôl i ni bellach a mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn sydd o’n blaenau.
“Mae 14 gêm gennym ni ar ôl y tymor hwn yn y Bencampwriaeth, wyth ohonyn nhw yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a mae gennym ni gyfle gwych i gyflawni rhywbeth mawr.”
Mae’r Adar Gleision wedi llithro i’r chweched safle yn y Bencampwriaeth, tra bod West Ham yn ail.
Clwb y Tylluanod
Y prynhawn yma cyhoeddodd Sheffield Wednesday eu bod nhw wedi apwyntio cyn-reolwr Caerdydd, Dave Jones, fel eu rheolwr newydd nhw. Roedd y Tylluanod wedi diswyddo Gary Megson nos Fercher. Mae Wednesday yn drydydd yn adran 1 NPower, un safle tu ôl i’w cymdogion Sheffield United.