Joe Allen
Mae chwaraewr canol cae Abertawe Joe Allen yn gobeithio cael diweddglo clodwiw i wythnos anodd ar y naw.

Roedd y gêm echnos rhwng Cymru a Chosta Rica yn achlysur anodd oherwydd ei bod yn noson deyrnged i’r diweddar Gary Speed.

Ond mae Allen yn gobeithio canolbwyntio ar y pêl-droed yfory wrth iddo wynebu ei gyn-reolwr Roberto Martinez, sy’ bellach yn ceisio achub Wigan rhag cwympo o Uwch Gynghrair Cymru.

Nhw sydd ar waelod y gynghrair, ac mae Allen yn disgwyl gêm agos yn Stadiwm Dave Whelan gyda Wigan yn brwydro am eu bywydau.

“Rydan ni’n siomedig ein bod ni wedi colli dwy gêm o’r bron – nid ydym wedi arfer â hynny. Ond nawr rhaid i ni sicrhau’r fuddugoliaeth yn erbyn Wigan,” meddai.

“Mae Wigan yn brwydro am bopeth, felly rydan ni’n rhagweld gêm galed iawn.”