Bydd y Sgarlets heno’n ceisio ymestyn eu rhediad da o ennill gemau cartref yn y RaboDirect PRO12. Maen nhw wedi ennill eu chwe gêm flaenorol yn y PRO12, a bydd buddugoliaeth heno ar Barc y Scarlets yn erbyn Connacht yn cyflawni rhediad gorau’r rhanbarth adre’ yn y gynghrair ers 2006.

Bydd Stephen Jones yn dechrau’n faswr, gydag Aaron Shingler, a gafodd gêm dda fel blaenasgellwr i Gymru yn erbyn yr Alban, yn dechrau yn yr ail-reng.

Er i wythwr Lloegr Ben Morgan ddod nôl i ymarfer gyda’r Sgarlets ni chafodd ei basio’n ffit ar ôl cael cnoc i’w goes tra’n ymarfer gyda Lloegr yr wythnos hon.

Tîm y Sgarlets: 15 Dan Newton, 14 Liam Williams, 13 Gareth Maule (capten), 12 Adam Warren, 11 Andy Fenby, 10 Stephen Jones, 9 Liam Davies, 1 Rhodri Jones 2 Emyr Phillips , 3 Deacon Manu, 4 Lou Reed, 5 Aaron Shingler, 6 Josh Turnbull, 7 Johnathan Edwards, 8 Kieran Murphy.

Eilyddion: 16 Kirby Myhill, 17 Phil John, 18 Peter Edwards, 19 Dominic Day, 20 Mat Gilbert, 21 Gareth Davies, 22 Nick Reynolds, 23 Viliame Iongi.

“Ian Gough fel gwin da”

Mae’r Gweilch yn cwrdd â Glasgow heno ar y Liberty gyda’r ail-reng Ian Gough yn chwarae ei 200fed gêm i’r rhanbarth Cymreig.

Ar ôl i hyfforddwr blaenwyr y Gweilch, Jonathan Humphreys, ei ddisgrifio fel “gwin da sy’n gwella gydag oedran” ymatebodd Ian Gough: “Dw i’n fwy o finegr balsamig na gwin da.”

Y Gweilch: 15 Ross Jones, 14 Hanno Dirksen, 13 Andrew Bishop, 12 Ashley Beck, 11 Eli Walker, 10 Dan Biggar, 9 Rhys Webb, 1 Ryan Bevington, 2 Richard Hibbard, 3 Joe Rees, 4 Ian Gough, 5 James King, 6 Tom Smith (Capt), 7 Sam Lewis, 8 Joe Bearman

Eilyddion: 16 Scott Baldwin, 17 Will Taylor, 18 Aaron Jarvis, 19 Jonathan Thomas, 20 George Stowers, 21 Kahn Fotuali’i, 22 Matthew Morgan, 23 Tom Isaacs