Bangor – Castell Nedd

Bydd Castell Nedd yn gobeithio parhau ar rediad campus yn yr Uwch Gynghrair wrth herio Bangor yn Nantporth o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn.

Er iddynt golli oddi cartref yn erbyn y Seintiau yng Nghwpan Cymru brynhawn Sadwrn diwethaf mae Castell Nedd ar rediad da yn yr gynghrair. Nid yw’r Eryrod wedi colli ers pedair gêm ar ddeg yn yr Uwch Gynghrair gan ennill eu pedair gêm ddiwethaf.

Record amddiffynnol wych tîm Kristian O’Leary sydd yn bennaf gyfrifol am hynny. Dim ond un gôl ar hugain mae’r tîm wedi eu hildio trwy’r tymor sydd yn dipyn llai nag unrhyw dîm arall yn y gynghrair. Maent hefyd wedi cadw llechen lân yn eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Prestatyn a’r Bala.

Mae ymosodwyr Castell Nedd hefyd wedi bod yn gwneud yn dda. Mae Lee Trundle wedi dod o hyd i’w ’sgidiau sgorio dros yr wythnosau diwethaf gan rwydo tair yn y tair gêm gynghrair diwethaf. Ac mae ymosodwr arall wedi creu cryn argraff oddi ar y fainc. Mae Toby Jones wedi dod ymlaen fel eilydd ym mhedair o bum gêm gynghrair ddiwethaf y tîm gan sgorio tair gôl yn y broses,

Ar bapur, mae gan Gastell Nedd gyfle da i guro’r pencampwyr yn Nantporth felly ond colli o 2-1 fu hanes yr Eryrod ym Mangor ym mis Hydref.

Bydd O’Leary yn gobeithio am ganlyniad tebycach i hwnnw a gafwyd ar y Gnoll ym mis Medi sef 2-0 o blaid Castell Nedd. Yn wir, bydd rhaid i’w dîm ennill mewn gwirionedd os yndynt dal yn gobeithio cipio’r bencampwriaeth y tymor hwn.

Byddai buddugoliaeth i Gastell Nedd yn cau’r bwlch rhyngddynt a Bangor ar y brig i bedwar pwynt gyda dim ond chwe gêm ar ôl.

Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf am 15:45.