Bangor
– Castell Nedd

Bydd Bangor yn croesawu Castell Nedd i Nantporth yng ngêm fyw Sgorio brynhawn Sadwrn ac mae’r rheolwr, Neville Powell, yn barod amdani.

Er fod Bangor ar rediad gwych yn yr Uwch Gynghrair mae tîm Neville Powell wedi cael dau ganlyniad siomedig yn y gwpan  yr wythnos ddiwethaf. Mae’r Dinasyddion wedi ennill eu saith gêm gynghrair ddiwethaf ond colli o 6-2 dros ddau gymal oedd eu hanes yng Nghwpan y Cynghrair yn erbyn y Drenewydd yr wythnos ddiwethaf. Ond nid yw Powell yn meddwl y bydd y canlyniad hwnnw yn effeithio hyder ei dîm cyn y gêm yn erbyn Castell Nedd:

“Na fydd. Roedd yn bwysig i rai o’n chwaraewyr ymylol ni gael munudau ar y cae, roedd gennym chwech neu saith a oedd heb chwarae ers mis Rhagfyr ac roeddynt angen gêm. Dyna yw ein athroniaeth ni wedi bod erioed yn y Gwpan Cynghrair ond fe chwaraeodd y Drenewydd yn dda ar y noson.”

Mae gan Fangor garfan holliach ar gyfer y gêm wedi i’r amddiffynnwyr Jamie Brewerton (hernia) a Michael Johnston (colli dant) yn dychwelyd ar ô anafiadau. Ond mae Powell yn ymwybodol iawn o gryfeder y gwrthwynebwyr i Nantporth ddydd Sadwrn.

“Mae nhw’n dîm da, yn dîm llawn amser mewn cynghrair ran amser, mae nhw a’r Seintiau yn disgwyl bod yn y ddau safle uchaf. Ac mae nhw’n agos iawn ond fe fyddan nhw’n teimlo eu bod angen ein curo ni ddydd Sadwrn os ydynt am ennill y gynghrair eleni. Ond rydym ni wedi ennill 22 allan o’r 28 gêm ddiwethaf yn y gynghrair felly fydd hi ddim yn hawdd iddynt.”

Y byddai buddugoliaeth brynhawn Sadwrn yn rhoi Bangor un gam yn nes at ail bencampwriaeth yn olynol ond mae’r rheolwr yn gwrthod edrych mor bell a hynny ar hyn o bryd:

“Nid ydym yn edrych  ym mhellach na dydd Sadwrn ar hyn o bryd. Mae ’na lot o dimau yn y gynghrair hon sy’n gallu curo’i gilydd felly mae’n rhaid inni gymryd un gêm ar y tro. Fe fyddai tri phwynt ddydd Sadwrn yn dri phwynt enfawr i ni ac yn hwb mawr i ni cyn y gêm yn erbyn y Seintiau’r wythnos ganlynol.”

Bydd Bangor yn aros ar frig yr Uwch Gynghrair beth bynnag y canlyniad yn Nantporth brynhawn Sadwrn ond bydd y Dinasyddion yn awyddus i gipio’r tri phwynt er mwyn cadw golau dydd rhyngddynt a’r Seintiau Newydd yn yr ail safle. Mae pedwar pwynt yn gwahanu’r ddau dîm ar hyn o bryd ond gallai’r bwlch hwnnw fod wedi ei gau i un erbyn i gêm Bangor ddechrau gan fod y Seintiau yn herio’r Bala nos Wener.

Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf am 15:45.