Luke Charteris
Mae ail-reng dylanwadol Cymru, Luke Charteris, sydd heb chwarae ers Cwpan y Byd, wedi’i gynnwys yng ngharfan y Dreigiau ar gyfer ymweliad Munster â Rodney Parade.
Enwyd Luke Charteris yng ngharfan y Dreigiau ar gyfer gêm y rhanbarth o Went yn erbyn Munster yn y RaboDirect PRO12 nos Sadwrn yma, ac mae’n gobeithio chwarae rhyw ran yn y gêm er mwyn cael cyfle i greu argraff ar brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.
Mae gan Gymru ddwy gêm yn weddill ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac mae’r freuddwyd o gipio trydydd Camp Lawn mewn wyth tymor dal ynghynn.
Anafodd Luke Charteris ei arddwrn yn Seland Newydd, ble gwnaeth argraff fawr yn y llinellau ac yn ei chwarae corfforol o amgylch y cae. Gyda’i gytundeb gyda’r Dreigiau yn dod i ben fe ddangosodd sawl clwb ddiddordeb ynddo ac mae e wedi cadarnhau y bydd yn gadael am un o glybiau Ffrainc, ond heb ddweud pa un eto.
Nid yw Munster wedi ennill ar Rodney Parade, Casnewydd, ers Mawrth 2009 a dim ond un tîm, y Sgarlets, sydd wedi llwyddo i guro’r Dreigiau yno yn y RaboDirect y tymor hwn.