Gary Speed
Mae hyfforddwr Cymru Chris Coleman wedi canmol meibion Gary Speed am eu dewrder yn dilyn gêm emosiynol i goffáu cyn-reolwr Cymru neithiwr.
Datgelodd hyfforddwr newydd Cymru fod Ed Speed, mab Gary Speed, wedi cyfarch y chwaraewyr ar ol y gêm.
Meddai Coleman: “Mae Ed a Tom yn glod i’w tad. Daeth Ed mewn i’r stafell newid ar ol y gêm a rhoddodd gyfarchiad byddai unrhyw un yn falch ohono. Doedd dim deigryn, roedd e’n gryf fel tarw.
“Daeth e mewn a dywedodd e, ‘Roedd Dad wastad yn dweud os wyt ti’n gwneud dy orau, mae hynna’n ddigon, a dwi’n credu eich bod chi wedi gwneud eich gorau heno’.
“Beth wyt ti’n dweud wrth hynna gan grwtyn 14 oed sydd wedi colli ei dad? Dyna beth yw dewrder, ontefe?”.
Teyrngedau
Collodd Cymru’r gêm yng Nghaerdydd o 0-1, ond roedd y canlyniad yn ail i’r achlysur o dalu teyrnged i Gary Speed a chwaraeodd dros ei wlad 85 o weithiau ac a oedd yn dechrau cael llwyddiant fel hyfforddwr Cymru pan fu farw mor ddisymwth ym mis Tachwedd.
Cyn y gêm roedd perfformiadau gan Bryn Terfel a’r Super Furry Animals , ac yn ystod yr anthemau cododd y cefnogwyr gardiau i ffurfio’r enw ‘Gary’ ar gefndir baner Cymru. Roedd llu o gyn-chwaraewyr Cymru’n bresennol i dalu teyrnged i ddyn oedd yn boblogaidd iawn ymysg ei gyfoedion yn y byd pêl-droed.
Capten Cymru neithiwr oedd cyfaill agos Gary Speed, Craig Bellamy. Ar ol sïon mai gêm neithiwr fydd perfformiad olaf Craig Bellamy yng nghrys coch Cymru, meddai Chris Coleman: “Dim ond dau ganlyniad i hynna sydd – bydd e’n aros neu fydd e ddim.
“Mae e am ennill a mae e wedi bod yn was ffyddlon i Gymru. Dwi’n gweld aeddfedrwydd ynddo na sylwais ynddo o’r blaen.
Pan fydd Craig yn barod bydd e’n cyhoeddi ei benderfyniad, ond galla i ddim ei orfodi. Dwi’n gobeithio gwnaiff e’r penderfyniad cywir”.