Ulster 15–14 Gweilch

Sicrhaodd cais hwyr Eli Walker bwynt bonws i’r Gweilch yn erbyn Ulster yn y RaboDirect Pro12 nos Wener. Er i’r Cymry gael dechrau da i’r gêm yn Ravenhill fe frwydrodd y Gwyddelod yn ôl a dim ond digon i sicrhau pwynt bonws oedd cais gwych Walker yn y diwedd.

Hanner Cyntaf

Yn dilyn chwarter awr agoriadol di sgôr cafodd wythwr Ulster, Pedrie Wannenburg, ei anfon i’r gell gosb a llwyddodd y Gweilch i fanteisio’n syth gyda chais i’w wythwr hwythau, Joe Bearman. Sicrhaodd y mewnwr, Kahn Fotuali’i, bêl gyflym yng nghysgod y pyst a gwnaeth Bearman yn dda i hyrddio dros y gwyngalch o bum medr. Ychwanegodd Dan Biggar y trosiad i roi mantais o saith pwynt i’r Cymry wedi 16 munud.

Lleihawyd y fantais honno i bedwar pwynt toc wedi hanner awr o chwarae diolch i gic gosb o droed maswr Ulster, Ruan Pienaar. A chafodd y chwaraewr o Dde Affrica gyfle i gau’r bwlch eto dri munud yn ddiweddarach ond methodd gyda chynnig arall at y pyst.

Ond y Gwyddelod oedd ar y blaen ar yr egwyl serch hynny wedi i’r dyfarnwr ddyfarnu cais cosb i’r tîm cartref yn yr eiliadau olaf. Llwyddodd Pienaar gyda’r trosiad hawdd i roi ei dîm ar y blaen o 10-7 ar hanner amser.

Ail Hanner

Dechreuodd y Gweilch yr ail hanner gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i Biggar dderbyn cerdyn melyn ar ddiwedd yr hanner cyntaf a manteisiodd y Gwyddelod wedi wyth munud o’r ail gyfnod gyda chais i’r canolwr, Paddy Wallace. 15-7 i’r tîm cartref gydag ychydig dros hanner awr ar ôl.

Ac felly yr arhosodd hi tan y munudau olaf pan sgoriodd yr asgellwr ifanc gais unigol gwych i roi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr. Gwaneth Walker yn dda iawn i guro pedwar amddiffynnwr i sgorio’i gais ond er i Biggar ychwanegu’r ddau bwynt doedd yr ymdrech hwyr ddim yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth.

Ond roedd yn ddigon ar gyfer pwynt bonws i’r rhanbarth o Gymru a phwynt bonws pwysig yw hwnnw hefyd gan ei fod yn cadw’r Gweilch yn yr ail safle yn nhabl y Pro12, bwynt o flaen Munster yn dilyn eu buddugoliaeth hwy yn erbyn y Gleision.