Mae ail-reng y Sgarlets, Dominic Day, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda chlwb Caerfaddon. Bydd Day, sy’n frodor o Sir Benfro a sydd wedi chwarae i’r Sgarlets 97 o weithiau, yn gadael yn yr haf i ennill ei fara menyn yng Nghyngrair Aviva.

Meddai Day, sy’n 26: “Rwyf wedi cael amser hapus iawn gyda’r Sgarlets ond teimlaf ei bod hi’n amser da yn fy ngyrfa i gael newid a symud ymlaen. Mae Cynghrair yr Aviva yn gystadleuol tu hwnt a bydd chwarae yno’n her rwyf wedi bod yn dyheu amdani.”

Meddai Nigel Davies, prif hyfforddwr y Sgarlets: “Mae Dom wedi bod yn was ffyddlon i ni dros sawl tymor, mae’n chwaraewr athletig ac yn gymeriad da i gael o gwmpas y lle. Fel un sy’n gymwys i chwarae i Loegr yn ogystal a Chymru bydd symud i Gaerfaddon yn rhoi cyfle iddo wthio am gydnabyddiaeth ryngwladol y tu hwnt i rygbi clwb.”

Ychwanegodd Davies: “ Rydym wedi bod yn adolygu ein carfan ar gyfer y tymor nesaf a mae’n broses rydym yn buddsoddi llawer o amser a meddwl iddi.

“Bydd datblygiad a recriwtio’r rhanbarth yn digwydd yng nghyd-destun ein cynllun busnes pum-mlynedd, a byddwn ni’n parhau i roi’r ffocws ar ddarparu cyfleon i ddatblygu chwaraewyr ifanc i Gymru yn ogystal a chynnal profiad a dyfnder ein carfan ni.”

Bydd Day yn chwarae yn erbyn Treviso heno (23 Chwefror) tra mae Nigel Davies yn wynebu’r ffaith fod 18 o chwaraewyr y Sgarlets allan o gytundeb ar ddiwedd y tymor hwn.